Main content

Trac yr Wythnos: Mei Gwynedd a Phlant Ysgol Treganna

“Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda”

Yn gyn-aelod o’r grwpiau roc Beganifs, Big Leaves, Sibrydion, The Peth ac Endaf Gremlin, mae Mei yn fwy diweddar wedi bod yn gweithio mewn meysydd cerddorol gwahanol iawn: mae o wedi helpu i ffurfio Cerddorfa Ukelele a Chôr Di-Dôn, yn ogystal a recordio’r gân “Pethau Bychain” hefo pobl ifanc ar hyd a lled Cymru. Mae Mei hefyd yn gynhyrchydd o fri, ac wedi gweitiho hefo bandiau ifanc fel Hyll, Rifleros a Cadno.

Mae’r gân ar gael rwan yn ddigidol!

Dilynwch Mei ar Twitter.