Main content
Trac yr Wythnos: Lleuwen - Aderyn Lapous
Mae Aderyn Loupus yn gân sgwennwyd gan Lleuwen a Vincent Guierin.
Dyma gân newydd sbon gan Lleuwen, fu ar raglen Georgia Ruth nos Fawrth diwethaf i‘w chyflwyno hi, a son am ei rhan yn y ddrama ‘Merch yr Eog’.
Mae Aderyn Loupus yn gân sgwennwyd gan Lleuwen a Vincent Guierin (chwaraewr bas o Llydaw) ac mae’r themau a’r syniadau’n debyg iawn i’r rhain yn nrama Merch yr Eog sy'n cael ei chynhyrchu gan Theatr Genedlaethol a Teatr Piba (cwmni drama yn Brest, Llydaw) ar hyn o bryd.
Mae Lleuwen yn perfformio yn y sioe, sy’n ddrama aml-ieithog (Cymraeg /Llydaweg/ Ffrangeg) yn teithio Cymru, Loegr a Llydaw mis nesa a Tachwedd – manylion i gyd ar www.theatr.cymru
Dilynwch Lleuwen ar Twitter: https://twitter.com/lleuwen