Main content

Trac yr Wythnos: Mabli Tudur - Temptasiwn

Dyma sengl ddiweddara’ Mabli.

Dyma sengl ddiweddara’ Mabli gafodd ei rhyddhau ar soundcloud ganol Awst.

Dyma ei ail sengl, yn dilyn “Mam” ddaeth allan ddechrau mis Mehefin.

Mae Mabli yn gantores ifanc o Gaerdydd, yn mynd i Ysgol Plasmawr, ac mae hi ar hyn o bryd yn brysur yn cyfansoddi a recordio ei EP Cyntaf.

Dyma sut mae Mabli yn disgrifio ei cherddoriaeth:

Ers fy ngeni dwi wedi caru canu - pan droiais yn 8 oed dechreuais i wersi clasurol, ond tair mlynedd yn ôl cwympais i mewn cariad gyda Theatr Gerdd. Ers hynny dwi wedi chwarae cymeriadau fel Cosette (Les Miserables) a Sandy (Grease). Dwi hefyd wedi mynychu academi berfformio ac wedi hyfforddi gyda rhai o berfformwyr a chyfarwyddwyr gorau’r West End. Fy mreuddwyd ydy cyrraedd llwyfan y West End rhyw ddydd, neu gyda bach o lwc, Broadway!