Main content
Trac yr Wythnos: The Gentle Good – Pendraw’r Byd
Dyma gân newydd sbon o albwm ddiweddaraf The Gentle Good (Gareth Bonello).
Mae’r albwm “Adfeilion” allan ers Hydref 14eg ar label ‘Bubblewrap’. Mae’n albwm sy’n ystyried y syniad nad yda’ ni fel pobol yn gwneud ein penderfyniadau ein hunain, ond yn hytrach yn byw “yn adfeilion” y cenedlaethau sydd wedi mynd o’n blaen. Felly, mae rhai caneuon yn talu teyrnged i’r gorffennol tra bo eraill yn adlewyrchu ar ein sefyllfa heddiw.
Mae’n ddilyniant i’r albwm Y Bardd Anfarwol ddaeth allan yn 2013 – albwm ysbrydolwyd gan daith Gareth i China i ymchwilio i waith y bardd Li-Bai