Main content

Trac yr Wythnos: Huw M – Sŵn y Galon Fach yn Torri

Un o ganeuon albwm newydd Huw M, Utica, yw trac yr wythnos.

Mae’r gân hon yn un o’r caneuon sydd ar albwm newydd Huw M – Utica, gafodd ei rhyddhau ddydd Gwener ar label I Ka Ching. Dyma drydydd albwm Huw, ar ôl Os Mewn Swn (2009) a Gathering Dusk (2011). Ar yr albwm, mae Huw wedi cyd-weithio gyda’r cantorion gospel y Chwiorydd Marshall o Gaerdydd; Lucy Simmonds ar y soddgrwth ac yn canu; Bethan Mair yn canu ac ar yr acordion, a Iolo Whelan ar y drymiau, offerynnau taro ac yn canu. Cafodd yr albwm ei chynhyrchu gan Frank Naughton, a’i recordio “yn fyw” sy’n rhoi sain gwahanol iawn i arddull haenog y ddau albwm cyntaf.

Mae Huw wedi cofnodi’r broses o recordio’r albwm ar ei flog.

Gallwch ddilyn @hum_m ar Twitter, ac mae mwy o fanylion ar wefan Huw M.