Main content

Trac yr Wythnos: Yws Gwynedd – Anrheoli

Dyma ail sengl Yws o’r albwm fydd allan yn y gwanwyn.

Sgrîn oedd y sengl gyntaf, a’r tro yma mae’r band cyfan wedi cyfrannau at y broses o sgwennu. Band Yws ydy Ifan Davies (Sŵnami) ar y gitâr, Richard Roberts (Gola Ola) ar y drymiau a Emyr Prys Davies (Vanta) ar y gitar fâs.

Aeth y band am benwythnos o sgwennu i stiwdio Bing yn y canolbarth er mwyn cyfansoddi stôr o ganeuon, ond fe recordiwyd y caneuon terfynnol yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth.

Mi fydd Anrheoli ar gael arlein dydd Llun nesa!

Mae’r albwm fydd allan yn y gwanwyn yn ddilyniant i albwm hynod boblogaidd unigol Yws, Codi Cysgu, ennillodd Y Record Hir Orau yng Ngwobrau’r Selar y llynedd.

Dilynwch Yws ar Twitter a gwrandewch ar ei ganeuon newydd ar SoundCloud.