Main content

Trac yr Wythnos: Georgia Ruth - Sylvia

Dyma fersiwn newydd o gân Meic Stevens, yn wreiddiol o’r albwm Lapis Lazuli o 1985.

Dyma fersiwn newydd o gân Meic Stevens, yn wreiddiol o’r albwm Lapis Lazuli o 1985.

Mae’r trefniant yma ar albwm newydd Georgia “Fossil Scale” sydd allan ers Hydref 7fed.

Dyma ail albwm Georgia, yn dilyn llwyddiant ysgubol “Week Of Pines”, ennillodd Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013.

Cynhyrchwyd yr albwm ar y cyd gan Dave Wrench (cynhyrchydd Bloc Party, Beth Orton FKA Twigs, Hot Chip ayyb) a’r peirianydd o’r Eidal Marta Salogni.

Mae nifer o gerddorion gwadd yn perfformio ar yr albwm yn cynnwys Cowbois Rhos Botwnnog, Meilyr Jones a Sahail Yusuf Khan (o Yorkston Thorne Khan).

Fe lansiwyd yr albwm gyda 2 gig dros y penwythnos yn Chapter, Caerdydd.

Dilynwch Georgia ar Twitter: https://twitter.com/georgiaruth

Gwrandewch ar y gerddoriaeth: http://georgiaruthmusic.co.uk/