Main content

Trac yr Wythnos: Rhys Gwynfor – Cwmni Gwell

Trac sesiwn recordiwyd ar gyfer rhaglen C2 Lisa Gwilym yw trac yr wythnos.

Mae Rhys yn wreiddiol o ardal Corwen, ac aeth i Ysgol Y Berwyn, Bala.

Rhys oedd canwr Jessop a’r Sgweiri – enillwyr Cân i Gymru yn 2013 gyda Mynd i Gorwen Hefo Alys. Roedd aelodau eraill y grŵp yn cynnwys Osian o’r Candelas a Branwen o Cowbois Rhos Botwnnog – ond fe ddaeth Jessop i ben yn gynharach eleni, a bellach mae Rhys yn canolbwyntio ar ei gerddoriaeth ei hun.

Arwr cerddorol Rhys ydy Freddie Mercury a Queen, ac mae Rhys yn dweud fod dylanwad Freddie yn gryf ar ei gerddoriaeth a’i berfformiadau. Mae o ac Iwan Huws o Cowbois Rhos Botwnnog wedi recordio fersiwn ryfeddol o It’s a Hard Life gan Queen...!

Cafodd y gân yma ei recordio fel rhan o sesiwn i raglen Lisa Gwilym ar C2. Cynhyrchydd Cwmni Gwell a Rhwng Dau Fyd oedd Robin Llwyd Jones o’r Bandana, gydag Ifan Jones aelod o’r Candelas yn gyfrifol am y gân arall, Nofio. Mae tair cân y sesiwn ar wefan C2.