Trac yr Wythnos: Kizzy Crawford – Caru Ti
Trac yr Wythnos yw Caru Ti gan Kizzy Crawford
Kizzy Crawford - Caru Ti
Dyma gân newydd sbon gan Kizzy. Fe berfformiodd Kizzy’r gân ar Ochr1 yn ddiweddar.
Mae Kizzy gyda gwreiddiau Bajan, sydd wedi datblygu soffistigeiddrwydd cynyddol yn ei chyfansoddi a pherfformio.
Ei huchelgais fel artist du Cymreig yw gwneud ei marc trwy gyfuno 'soul'/jazz yn ddwyieithog, ac mae hi eisoes yn cael cydnabyddiaeth am ei gwaith gyda'i cherddoriaeth yn cael ei chwarae ar Radio Cymru yn ogystal â pherfformiadau byw ar S4C.
Enillodd Kizzy cystadleuaeth Brwydr Y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol 2013.
Enillodd Kizzy hefyd y gystadleuaeth Canwr/cyfansoddwr Merthyr a Rhondda Cynon Taf 2012, gan dderbyn gwobr ariannol i recordio gyda Amy Wadge.
Yn ddiweddar, mae Kizzy wedi chwarae yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod WOMEX, Gŵyl Sŵn, Gŵyl y Gelli, ac wedi cefnogi Sarah Gillespie yng Ngŵyl Jazz Llundain yn ogystal â chefnogi Gruff Rhys a Newton Faulkner.
Trac yr Wythnos: Kizzy Crawford – Pili Pala
Mae Kizzy yn gantores/gyfansoddwraig 19 oed o Ferthyr yn wreiddiol, ac y llynedd roedd Kizzy yn un o artistiaid Gorwelion – prosiect BBC Cymru ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru.
Pili Pala yw ei sengl ddiweddaraf, gafodd ei rhyddhau yn ddigidol mis Awst. Fe gafodd sengl flaenorol Kizzy – Yr Alwad – ei defnyddio ar hysbysebion teledu i hybu Cymru ar draws y byd.
Mi fydd Kizzy yn perfformio yng ngŵyl elusennol Y Cwtsh Mawr nos Sadwrn, 12 Medi, ac yna yn nhafarn y Gwachel, Pontardawe ar 18 Medi. Mi fydd Kizzy hefyd yn cefnogi Ghazalaw (grwp Gwyneth Glyn, Georgia Ruth a’r cerddor o India Tauseef Akhtar) ar eu taith mis Tachwedd.
Kizzy Crawford - Yr Alwad
Dyma sengl ddiweddaraf y gantores ifanc o Ferthyr Tudful, a chafodd ei rhyddhau ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mae’r gan yn cael ei defnyddio ar hysbyseb deledu Croeso Cymru.
Mae Kizzy yn un o’r artistiaid sydd ar Daith Gwanwyn Gorwelion ar hyn o bryd.
Dolenni Perthnasol
Clips
Galleries