Main content

Trac yr Wythnos: Mei Emrys – Brenhines y Llyn Du

Dyma gân newydd gan Mei Emrys, oedd arfer bod yn ganwr y grwp Vanta.

Dyma gân newydd gan Mei Emrys, oedd arfer bod yn ganwr y grwp Vanta.

Mae o wedi bod yn recordio caneuon newydd yn Stiwdio Ferlas hefo’r cynhyrchydd Rich Roberts, a gyda cymorth Yws Gwynedd. Ei obaith ydy rhyddhau casgliad o ganeuon yn 2017.

Fe wnaeth Vanta ryddhau tri EP rhwng diwedd y 90au a 2008 – Pedair Stori, Dagrau Llawenydd a Caneuon o’r Gwaelod. Mae’n debyg mai’r gân fwyaf poblogaidd oedd Tri Mis a Diwrnod! Yr aelodau oedd Mei Emrys, Gerallt Hughes, Emyr Davies a Dafydd Jones.

Dilynwch Mei ar Twitter