Trac yr Wythnos: Lowri Evans - Dyddiau Tywyll Du
Dyma sengl newydd Lowri Evans.
Yn wreiddiol o Drefdraeth, Sir Benfro, fe wnaeth Lowri ryddhau ei albwm gyntaf “Clyw Sibrydion” ddeg mlynedd yn ôl.
Ers hynny, mae wedi rhyddhau 2 EP “Disgleirio” a “Dim ‘Da Maria” a’r albwm “Dydd a Nos” yn 2011.
Mae’n gigio’n gyson led-led Cymru a Phrydain, ac hefyd wedi perfformio yn Nashville yn 2014, ac yng Ngwyl Folk Alliance yn Kansas yn 2015.
Dyma sengl newydd Lowri sydd allan ers wythnos dwytha. Mae Lowri’n rhyddhau albwm newydd o’r enw “Everyone Is From Somewhere Else” ar Chwefror 26ain, ac fe gynhyrchwyd yr albwm gan Mason Neely sydd wedi gweithio hefo artistiaid fel Cerys Matthews a Sufjan Stevens.
Bydd Lowri ar daith yn hyrwyddo’r albwm ddiwedd y mis a dechrau mis Mawrth, yn cynnwys y gigs yma yng Nghymru:
27/02 – Dolgellau
03/03 – Hwlffordd
04/03 – Llandeilo
05/03 – Aberteifi
18/03 – Caerdydd