Main content
Trac yr Wythnos: Yr Ods - Ble Aeth Yr Haul
Dyma gynnyrch newydd cyntaf Yr Ods ers yr albym Llithro ddaeth allan yn 2013.
Fe gafodd y sengl ei recordio yn ystod taith Yr Ods i’r Almaen a Gwlad Pwyl mis Medi diwethaf, a bydd y sengl yn cael ei rhyddhau yn ddigidol yn fuan ar label i-ka-cking, gyda record 7 modfedd i ddilyn.
Cadwch lygaid hefyd ar gyfrif Twitter Yr Ods am fideo arbennig i gyd-fynd hefo’r gân.
Mi fydd Yr Ods yn perfformio ar Lwyfan y Maes yn Steddfod Meifod ar y nos Sadwrn olaf.
Mae aelodau’r Ods hefyd wedi bod yn brysur hefo prosiectau unigol; mae Griff Lynch newydd ryddhau dwy gân newydd; mae Osian Howells yn gweithio ar ei EP gyntaf; mae Gwion Llewellyn ar daith ar draws y byd hefo’r grwp “Villagers” ac mae Gruff Pritchard yn aelod o Carcharorion.