Main content

Trac yr Wythnos: Shan Cothi – Haleliwia

Fersiwn Shan Cothi o glasur Leonard Cohen, oddi ar ei halbwm newydd ‘Paradwys’.

Dyma fersiwn Shan o glasur Leonard Cohen, oddi ar ei halbwm newydd ‘Paradwys’ sydd allan ers diwedd mis Hydref. Dyma albwm gyntaf Shan ers 2005, a chafodd yr albwm ei recordio yn stiwdio Acapela, Pentyrch. O dan arweiniad y cyfarfwyddwr cerdd John Quirk, mae nifer o gerddorion a chantorion gwâdd yn ymddangos ar yr albwm, yn cynnwys Catrin Finch, Rebecca Evans, Aled Hall a Wynne Evans. Mae’r albwm hefyd yn cynnwys y Nidum Ensemble – cerddorion o wahanol gerddorfeydd fel Cerddorfa Symffoni Llundain a Cherddorfa Ffilarmonig Lerpwl.

Mae Shan ar daith ar hyn o bryd yn hyrwyddo’r albwm – taith o eglwysi a chapeli Cymru! Mae'r manylion llawn ar gael ar ei thudalen Facebook neu gallwch ei dilyn ar Twitter: @realshancothi