Main content

Yws Gwynedd – Sgrin

Trac Yr Wythnos, Sgrin gan Yws Gwynedd.

Yws Gwynedd - Sgrin

Dyma'r trac cynta oddi ar albym newydd Yws fydd mas erbyn y 'Dolig.

Dyma'r gân gynta i Yws gyfansoddi gyda gweddill ei fand, sef Ifan Sion Davies (Swnami), Emyr Prys Davies a Rich Roberts (aelod o Gola Ola' gynt a sydd bellach yn gynhyrchydd cerddoriaeth).

Nath y band recordio'r gân yn Stwidio Bing ym Machynlleth.

Mae hi’n gân am bobl sy’n treulio eu hamser i gyd ar eu ffôns symudol - er bo Yws yn cyfadde' ei fod e'n waeth 'na neb am wneud hynny…

Ma'r band wedi recordio fideo i Ochr 1 fydd i’w weld ar S4C cyn bo hir.

Does dim gigs 'da'r band tan ddiwedd y flwyddyn.

Dy Anadl Di

Dyma sengl newydd sbon Yws Gwynedd, yn dilyn llwyddiant yr albym Codi Cysgu ddaeth allan y llynedd. Mae dau drac ar y sengl – Dy Anadl Di (Trac Yr Wythnos), a fersiwn Yws o Pan Dan Ddaw Yfory, gafodd ei recordio ar gyfer cyfres Radio Cymru “Y Teimlad”.

Mae Dy Anadl Di yn ymateb gan Yws i’r ymgyrchu yn yr Alban adeg y refferendwm, ac fe recordiwyd hi yn stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth hefo’r cynhyrchydd Rich Roberts.

Gig nesaf Yws fydd yn y Pentref Ieuenctid yn y Sioe Frenhinol ar Orffennaf 21ain, ac yna bydd yn perfformio ym Maes-B ar Awst 7fed, ac ar y Llwyfan Perfformio ar Awst 8fed yn y Steddfod

Mae fideo o Yws yn perfformio’r gân i’w gweld ar dudalen Facebook C2
Dilynwch Yws ar Twitter - @ywsgwynedd

Yws Gwynedd - Neb Ar Ôl

Dyma'r trac enillodd gwobr "Can Orau", yng ngwobrau Selar 2014, a gynhaliwyd Nos Sadwrn yn Undeb y Myfyrwyr, Aberystwyth.

Mae Yws Gwynedd i'w longyfarch hefyd am iddo gipio dwy wobr arall, sef "Record Hir 2014", am ei albwm Codi Cysgu, ac "Artist Unigol y Flwyddyn".

Roedd Yws yn Aberystwyth i dderbyn ei hatric o wobrau, er nad oedd yn perfformio ar y noson, gan i’w blentyn cyntaf, Eban, gael ei eni’n ddiweddar.

Soundcloud Yws Gwynedd