Y Dhogie Band - Yr Hebog Tramor
Dyma’r sengl gyntaf o’r albwm newydd “O’r Gorllewin Gwyllt” gan y Dhogie Band.
Golygfa syfrdanol Sir Benfro sydd wedi ysbrydoli albwm diweddara y Dhogie Band. Mae'r grŵp poblogaidd o Sir Benfro wedi rhyddhau albwm sy'n talu teyrnged i orllewin gwyllt Cymru, gwlad y gân a storïau. Recordiwyd yr albwm yn Stiwdio NSL Trefdraeth.
Mae'r cyfansoddiad presennol y grŵp yn asio ynni'r aelodau ifancaf sef drymwr Iwan Hughes sy hefyd yn canu a Reuben Wilsdon-Amos sy'n chwarae'r gitar a chanu, gyda phrofiad aelodau gwreiddiol y grŵp - Eric Nicholas ar yr allweddellau a John Humfrey sy'n canu a chwarae gitar - ac Edward Hughes yn y canol ar y gitar bas a chanu.
Dywedodd John, "Mae'r grŵp wedi bod yn chwarae ers 47 mlynedd a ni'n dal i fwynhau chwarae, cyfansoddi a recordio. Roeddem ni'n meddwl bod hi'n hen bryd i ni recordio albwm Cymraeg newydd. Rydym ni'n falch iawn i gyflwyno rhai caneuon newydd a gyfansoddwyd gan Edward Hughes ac mae'r albwm yn cynnwys rhai caneuon gwreiddiol sy'n cael derbyniad da yn ystod gigs y Dhogie Band."
Mae'r albwm yn cynnwys hefyd rhai clasuron poblogaidd fel "Pishyn" a "Cân Walter" a bydd y CD ar gael o wefan y Dhogie Band - dhogieband.com, siopau lleol, itunes a storfeydd digidol eraill neu yn uniongyrchol o'r Dhogie Band yn ystod gigs - dilynwch "DhogieBandJohn" ar Facebook am fanylion.
Yr Hebog Tramor - cân Edward Hughes gyda Reuben yn canu. Mae'r gân yn rhoi mewn geiriau syml popeth sy'n dda am fod ar arfordir Sir Benfro yn yr Haf. Yng nghwmni ffrindie da, mae gweld y môr a'r traethau a byd natur ar ei ore yn siwr o godi ysbryd dyn.
Gwefan - The Dhogie Band
Facebook - The Dhogie Band