Main content

Y Bandana - Dant Y Llew

Mae Fel Tôn Gron yn gasgliad o ddeg o ganeuon sydd heb eu rhyddhau o’r blaen.

Daw'r gân o albwm ddiweddara Y Bandana – Fel Tôn Gron sydd allan ers Fawrth 13eg ar label Copa. Dyma 3ydd albwm y band, yn dilyn Y Bandana yn 2010 a Bywyd Gwyn yn 2011

Aelodau Y Bandana:
Tomos Owens - Allweddellau
Sion Owens - Bâs (brawd Tomos)
Gwilym Rhys – Gitar / prif lais (cefnder Tomos a Sion)
Robin Jones – Drymiau

Mae'n nhw i gyd yn dod o ardal Bethel / Caernarfon, ac fe sefydlwyd y band yn haf 2007 gan Tomos a Sion Owens.

Ymunodd Gwilym Rhys a'r band (er ei fod prin yn gallu chwarae gitar ar y pryd) ond ar ol ychydig o ymarfer, fe berfformiodd y band ym mrwydyr y bandiau "Sbarc" yn Galeri Gaernarfon. Un o'r beirniaid oedd Lisa Gwilym, ac fe gynigodd sesiwn i'r band. Ar ol hynny ymunodd Robin Jones a'r band fel drymiwr.

Mae Fel Tôn Gron yn gasgliad o ddeg o ganeuon sydd heb eu rhyddhau o'r blaen – ond bydd rhai caneuon yn gyfarwydd i fynychwyr rheolaidd gigs hwyliog ac egniol y band am eu bod wedi bod yn eu cynnwys yn ei set byw ers yr haf.

O'r gân roc gwleidyddol "Dal i Ddysgu" i'r caneuon pop hwyliog a direidus "Dant y Llew" ac "Y Felan Las" i'r hamddenol "Cyn i'r Lle 'ma Gau", mae'r albwm hwn yn gymysgedd o ganeuon i apelio at bob chwaeth.

Newyddion cyffredinol:

• Gwilym wedi ennill gwobr ‘Offerynnwr y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Selar eleni
• Sion wedi cystadlu yn Cân I Gymru Eleni gyda’i gyfansoddiad ei hun ‘Caru Nhw I Gyd’
• Gwilym yn perfformio yn ‘Plu hefyd gyda’i chwiorydd – albwm allan ar ben ei hun hefyd yn fuan?
• Sion hefyd yn aelod o fand Uumar

I wrando ar gerddoriaeth Bandana ewch i: www.soundcloud.com/ybandana
Dilynwch Cowbois ar Twitter – www.twitter.com/ybandana