Trac yr Wythnos: Meinir Gwilym – Gwallgo’
Dyma gân o albwm newydd Meinir, “Llwybrau”, sydd allan dydd Llun, Tachwedd 14.
Mae’n cynnwys 15 o ganeuon, a dyma albwm wreiddiol gynta Meinir ers rhyddhau Tombola yn 2008. Yn y cyfamser, fe wnaeth Meinir gyd-weithio hefo Gwenan Gibbard ar brosiectau gwahanol – ac mae Gwenan yn ymddangos ar yr albwm yma!
Ni fydd yr albwm yn cael ei ryddhau’n ddigidol ar hyn o bryd er mwyn cefnogi siopau Cymraeg lleol.
Bydd Meinir yn gigio’n gyson i hyrwyddo’r albwm:
Tachwedd 18 – Clwb Canol Dre, Caernarfon
Tachwedd 23 – Morgaith Queen Of The Sea, Cei Llechi, Caernarfon
Tachwedd 26 – Llew Gwyn, Machynlleth
Tachwedd 26 a 27 – Hwyl Yr Ŵyl, Pwllheli
Rhagfyr 3 – Gwyl Fwyd Portmeirion
Rhagfyr 9 – Yr Hafod, Pontarfynach
Rhagfyr 10 – Palas Print, Caernarfon
Rhagfyr 17 – Clwb Y Twr, Trefor