Main content

Trac yr Wythnos: Raffdam – Llwybrau

Trac yr wythnos yw Llwybrau gan Raffdam.

Raffdam ydy Mari Mathias (llais, gitâr), Dafydd Syfydrin (drwm bas, tambwrîn, gitâr) a Siôn Rees (Banjo, ukulele a mandolin). Mae’r triawd yn dod o Geredigion, ac o ardaloedd Pontrhydfendigaid a Thalgarreg yn benodol.

Maen nhw’n ysgrifennu a pherfformio gyda’i gilydd ers peth amser, ond dim ond dros y flwyddyn ddiwethaf maen nhw’n perfformio dan yr enw RaffDam. Gellir disgrifio sŵn y band fel gwerin cyfoes, gyda digon o egni a hwyl yn y gerddoriaeth. Er hynny, mae dylanwadau’r aelodau’n amrywiol iawn, ac maent yn rhestru Gai Toms, Meic Stevens a Gwyneth Glyn ar un pegwn, ac Y Reu, Sŵnami a Super Furry Animals i’r pegwn arall.

Mae Raffdam wedi cael haf prysur iawn o gigio gan berfformio mewn nifer o wyliau, yn ogystal â chyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 a Maes B eleni.

Cafodd y gân hon ei rhyddhau yn ddigidol ddiwedd Medi fel un o ganeuon Clwb Senglau’r Selar, sydd â’r nod o ryddhau cynnyrch cyntaf artistiaid Cymraeg addawol.

Dolenni