Trac yr Wythnos: Meinir Gwilym - Rho i Mi
Mi sgwennodd Meinir y trac ar y ffordd adra o Gaernarfon.
Mae'r sengl newydd ar gael i'w lawrlwytho ar iTunes.
Mi sgwennodd Meinir y trac ar y ffordd adra o Gaernarfon rhyw noson, yn gan i fynd ar ei albwm nesa. Ond penderfynodd ei rhyddhau fel sengl i godi arian i ddwy elusen sy'n agos at ei chalon - y Gentle Barn yn Los Angeles a Freshfields yma yng Nghymru - mae nhw'n achub anifeiliaid am amrywiol resymau ac yn gofalu amdanyn nhw.
Mae hi'n gigio dipyn ar y funud, ac yn gweithio'n agos efo Yamaha ar wahanol brosiectau, ac yn dal i ddatblygu prosiect ar y cyd efo'r delynores Gwenan Gibbard.
Mi ddaw'r albwm newydd... pan fydd yr amser yn iawn! Hon fydd yr albwm gyntaf i Meinir ei rhyddhau ers Tombola yn 2008.
Gigs yn dod i fyny -
Cyngerdd Cyhoeddi Steddfod Mon - Mai 2il - Ysgol Gyfun Llangefni
White Lion, Machynlleth - Mai 15fed
Sinema Tywyn - Mehefin 4ydd (efo Gwenan Gibbard)