Trac yr Wythnos: Plu – Ôl Dy Droed
Cân o albwm newydd y grŵp, Tir a Golau.
Mae’r gân hon yn un o’r caneuon fydd ar albwm newydd Plu, Tir a Golau, sydd allan ar label Sbrigyn Ymborth ar Dachwedd 13eg. Cafodd mwyafrif yr albwm ei recordio yn stiwdio Bryn Derwen ym Methesda – stiwdio bandiau fel Gruff Rhys, Georgia Ruth ac Euros Childs, ac sydd bellach wedi cau. Plu oedd y grŵp Cymraeg olaf i recordio yno!
Mae sain y grŵp wedi datblygu cryn dipyn erbyn hyn – mae’n sain llawer mwy haenog a chyfoethog na sŵn syml gwerinol cynnar y band. Mae nifer o gerddorion gwadd yn ymddangos ar yr albwm, yn cynnwys Mari Morgan ar y ffidl, Euron Jones ar y gitâr pedal-ddur a Dafydd Hughes ar y drymiau. Aled Hughes o Cowbois Rhos Botwnnog oedd cynhyrchydd yr albwm.
Mae Plu yn grŵp teuluol – y ddwy chwaer a'r brawd Elan, Marged a Gwilym Rhys. Ffurfiwyd Plu yn 2012, a dyma’u drydedd albym, yn dilyn Plu a Holl Anifeiliaid y Goedwig. Roedd Plu yn un o artistiaid Gorwelion 2014/5.
Bydd y grŵp ar daith mis Tachwedd yn hyrwyddo’r albwm:
Tachwedd 14 – Clwb Canol Dre, Caernarfon (noson lansio efo Meic Stevens)
Tachwedd 19 – Baltic Social, Lerpwl (efo Colorama)
Tachwedd 20 – Fred’s Ale House, Manceinion (efo Colorama)
Tachwedd 21 – Neuadd Pentre Llangywer (efo Colorama)
Tachwedd 22 – Acapela, Caerdydd (efo Colorama)
Mae Plu a Colorama hefyd yn cyd-weithio ar albwm fydd allan yn 2016.
Gallwch ddilyn @pluband ar Twitter ac mae mwy o fanylion am y band ar eu gwefan.