Main content

Trac yr wythnos - 9Bach - Anian

Dyma un o’r caneuon sydd ar albwm newydd 9 Bach, Anian.

Dyma un o'r caneuon sydd ar albwm newydd 9 Bach – Anian. Dyma drydydd albwm y grwp ers iddyn nhw ffurfio yn 2005.

Fe enillodd yr ail albwm "Tincian" wobr Albwm Y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin Radio 2 y llynedd.

Mae'r albwm newydd "Anian" (mae'r albwm a'r sengl gynta' yn rhannu'r un enw!) yn cael ei rhyddhau ar label Real World Records – label Peter Gabriel – ar Ebrill 29ain, ac fe gafodd yr albwm hefyd ei recordio yn stiwdios Real World.

Mae'r pecyn yn cynnwys 2 CD – un o ganeuon y grwp sydd "yn llawn enaid" ac yn edrych yn feirniadol ar fywyd cyfoes.

Mae'r ail CD yn cynnwys dehongliadau o’r caneuon gan bobol fel Pater Gabriel, Rhys Ifans a Maxine Peake, ar gyfer cynulleidfa ryngwladol, di-Gymraeg.

Mae ail sengl a fideo – Llyn Du – allan ar hyn o bryd, a bydd Lisa Jen o 9 Bach ar raglen Aled Hughes ar Ebrill 28ain.

Gwefan 9Bach

Youtube 9Bach

Facebook 9Bach

Twitter 9Bach