Main content

Trac yr Wythnos: Yr Oria – Cyfoeth Budur

Mae Yr Oria yn fand newydd, ac mae’r tri aelod yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog.

Roedd dau aelod – Garry a Gareth – yn aelodau o Jambyls, grwp sydd bellach wedi dod i ben, a’r trydydd aelod ydy Gerwyn o’r band Sŵnami!

Dyma ail sengl y band, yn dilyn “Gelynion”. Fel Sŵnami a Jambyls, maen nhw wedi bod yn recordio yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth hefo’r cynhyrchydd Rich Roberts, ac maen nhw’n gobeithio rhyddhau EP yn 2017.

Dilynwch nhw ar Twitter a gwrandewch ar y caneuon newydd ar SoundCloud.