Main content

Trac yr Wythnos: Yr Ods – Hiroes i'r Drefn

Trac yr Wythnos yw Hiroes i'r Drefn gan yr Ods

Trac yr Wythnos: Yr Ods – Hiroes i’r Drefn

Aelod diweddaraf o deulu I Ka Ching yw’r peiriant hits a elwir Yr Ods.

Ar y 9fed o Hydref 2015, byddant yn rhyddhau sengl ddwbl-ochr A, 7 modfedd; ‘Ble’r Aeth yr Haul’ a ‘Hiroes i’r Drefn’. Efallai i rai ohonoch wylio fideo ‘Ble’r Aeth yr Haul’ eisoes (os na, gwyliwch yma), sy’n dangos y band yn recordio’r sengl hon ym Merlin.

Yn ystod taith a oedd yn cynnwys ymweliad â Leipzig (Yr Almaen) a Poznan (Pwyl), penderfynwyd defnyddio diwrnod rhydd yn stiwdio Funkhaus. Wedi ei adeiladu yn yr hen Ddwyrain Berlin, mae’n cael ei gydnabod fel un o’r adeiladau gorau’r byd â grëwyd yn bwrpasol ar gyfer recordio. Wedi dymchwel y wal, bu’r adeilad yn wag am gyfnod, cyn profi bwrlwm o’r newydd fel lleoliad celfyddydol.

Mae Yr Ods yn gwyro tuag at sŵn tywyllach, ychydig yn fwy amgen na’r cynnyrch blaenorol, ond eto’n dangos eu gallu dihafal i liwio’u caneuon tuag at uchafbwynt o felodïau bachog, grymus. Fel ag y clywir aml i waith yn eu caneuon, mae Yr Ods yn rhoi llais i’r rhwystredigaeth gwleidyddol a diwylliannol all gorddi y tu mewn i rywun.

Mae gwaith celf y record wedi ei greu gan yr artist Ani Saunders, a bydd nifer cyfyngedig yn unig ohoni ar gael o’ch siopau a gwefannau cerddoriaeth arferol yn ogystal â ikaching.co.uk.

Dolenni