Main content

Bellamy yn agor y drws i Koumas

Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n ystyried os ydi'r amser wedi cyrraedd i Lewis Koumas hawlio ei le fel prif flaenwr Cymru.

Ar ôl sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Ghana, ydi'r amser wedi dod i Lewis Koumas hawlio ei le fel prif ymosodwr Cymru? Does gan Craig Bellamy ddim amheuaeth mai dyfodol fel rhif 9 sydd ganddo, ond ydi'r criw yn rhannu'r un farn am chwaraewr sydd fel arfer ar yr asgell? A beth am y perfformiad yn y gêm gyfartal nos Fawrth?

Mae 'na glod mawr haeddiannol i Malcolm ar ôl proffwydo'n gywir wythnos diwethaf bod cyfnod Arne Slot gyda Lerpwl ar fin dod i ben - rhywbeth sydd wedi gwneud Dylan yn ddyn hapus iawn.

A gawn ni hanes perfformiad Owain mewn gêm elusennol yn Abertawe, wrth i glip fideo amlygu gwendid amddiffynnol rhyfeddol.

Release date:

11 months left to listen

49 minutes

Podcast