Enillydd Ffermwr Tir Glas Cymru 2026
Sara Elan Jones sy'n cwrdd â Ffermwr Tir Glas Cymru 2026 sef Gwyn Evans o Gross Inn, Ceredigion. Sara Elan Jones meets the Welsh Grassland Farmer of the Year 2026, Gwyn Evans.
Sara Elan Jones sy'n cwrdd â Ffermwr Tir Glas Cymru 2026 sef Gwyn Evans o Fferm Dyffryn Arth, Cross Inn, Ceredigion, ac yn clywed mwy am systemau'r fferm. Mae'n cadw buches o 350 o wartheg sy'n lloia yn y gwanwyn ar 466 erw.
Hefyd, Lois Cernyw sy'n sgwrsio gydag Eilir Lloyd Thomas o Nebo, Llanrwst sy'n rhan o daith feics go arbennig er mwyn codi arian er cof am ei frawd Myfyr fu farw mewn damwain car yn 2006.
Llysgennad Sioe Fawr Ynys Môn 2027, Mari Llifon Jones sy'n sôn am sefydlu'r Grŵp Genod Gwledig, er mwyn ceisio taclo unigrwydd ymhlith merched sy'n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad. Mae'r grŵp yn cynnig gofod i ferched o gefndiroedd amaethyddol neu wledig ddod ynghyd, rhannu profiadau, a chefnogi'i gilydd.
Y newyddion diweddaraf o ran y grantiau a'r polisiau amaethyddol gyda'r gyfreithwraig Awel Mai Hughes, a Gwynedd Watkin, Arweinydd Rhanbarthol Gogledd Cymru gydag Undeb Amaethwyr Cymru sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg.
Cynhyrchiad cwmni Telesgop i BBC Radio Cymru.
Ar y Radio
Darllediadau
- Heddiw 07:00BBC Radio Cymru
- Heddiw 15:30BBC Radio Cymru