Main content

BBC Cerddorfa Genedlaethol Cymru yn 90

Ers 90 mlynedd, mae BBC NOW wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol a chlasurol Cymru, gan berfformio i gynulleidfaoedd ar draws y DU, dramor ac ar yr awyr. Bydd BBC NOW yn dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed rhwng mis Ionawr a mis Mai 2018, gan ddangos amrywiaeth ei gwaith.