Pasio'r Mesur Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Cafodd y Mesur Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) ei basio gan ACau ar 10 Mawrth 2015.
Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau i'r mesur, felly cafodd ei basio heb bleidlais.
Mae'r mesur yn rhoi dyletswyddau ar Weinidogion Cymru, Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ("Awdurdodau Lleol") a Byrddau Iechyd Lleol i greu a chyhoeddi strategaethau er mwyn dileu cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol.