Oedi i wasanaethau trên a ffyrdd ar gau ar ôl i lori daro pont yng Nghaerdydd

Gwrthdrawiad Pont ButeFfynhonnell y llun, Rob Burnett
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth lori'r Post Brenhinol daro Pont Stryd Bute nos Lun

  • Cyhoeddwyd

Cafodd gwasanaethau trên eu gohirio a bu ffyrdd ar gau yng nghanol dinas Caerdydd nos Lun ar ôl i lori daro pont rheilffordd.

Mae lori'r Post Brenhinol bellach wedi cael ei symud o dan Bont Stryd Bute.

Mewn datganiad ar Facebook, dywedodd Cyngor Caerdydd fod "Stryd Bute ar gau i'r ddau gyfeiriad ar hyn o bryd rhwng Sgwâr Callaghan a chyffordd Stryd Custom House a Theras Bute."

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: "Mae gwasanaethau wedi'u tarfu oherwydd oediadau a chanslo ar fyr rybudd wedi i lori nwyddau trwm daro pont y rheilffordd yn Stryd Bute, Caerdydd.

"Mae ein cydweithwyr Network Rail yn archwilio'r bont a disgwylir y bydd yn amharu ar wasanaethau tan 21:30 heno."

Ychwanegodd y cwmni y bydd cwsmeriaid sydd wedi'u heffeithio yn gallu gwneud cais am iawndal.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.