Cymeradwyo cynllun dadleuol am dai fforddiadwy yn Chwilog

Darlun gan bensaer o ddatblygiad tai ym mhentref Chwilog - mae amrywiaeth o dai a fflatiau i'w gweld yn y llun, sydd a waliau gwyn a thoi llwydFfynhonnell y llun, Ainsley Gommon Architects
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd o sut allai'r datblygiad edrych ar ôl cael ei ddiwygio i gynnwys llai o dai

GanCraig Duggan a Gareth Wyn WilliamsBBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr yng Ngwynedd wedi cymeradwyo cais i godi 20 o dai fforddiadwy yn Chwilog.

Mae'r cais yn addasiad o gais blaenorol gan Williams Homes Ltd (Bala) a Grŵp Cynefin a fyddai wedi gweld 25 o dai ar yr un safle.

Fe gafodd y cais gwreiddiol ei wrthod gan Bwyllgor Cynllunio Gwynedd ym mis Ebrill oherwydd pryder ynglŷn â'r effaith ar y Gymraeg ac amheuaeth dros yr angen am gymaint o dai yn y gymuned.

Ond gyda swyddogion y sir yn parhau i argymell caniatáu'r datblygiad, fe gafodd y cais diweddaraf ei gymeradwyo.

Dywedodd y cynghorydd lleol, Rhys Tudur, bod "20 dal yn lot o dai i bentref fel Chwilog", gan gyfeirio at wrthwynebiad parhaus y cyngor cymuned lleol, a deiseb yn cynnwys 160 o lofnodion pobl leol yn cefnogi'u safbwynt.

Mae'n dadlau bod "sawl sail i wrthod" o dan bolisïau cyfredol y cyngor, gan gynnwys "nad oes cyfleusterau cymunedol addas" i gefnogi datblygiad o'r fath yn Chwilog.

Mae'r cynllun, meddai, yn "or-ddatblygiad" a fyddai'n "newid cymeriad a chydbwysedd ieithyddol y gymuned".

Ychwanegodd y byddai'n "newid rhy fawr, yn rhy gyflym", gan alw unwaith eto ar y cyngor i sefydlu polisi gosod lleol.

Ond cafwyd rhybudd gan swyddogion y byddai'r awdurdod yn wynebu gorfod talu costau pe bai'r cais yn cael ei wrthod a'r ymgeisydd yn apelio'n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad.

Y cae yn Chwilog ble mae bwriad i godi 20 o dai
Disgrifiad o’r llun,

Oherwydd y gostyngiad yn nifer y tai fe fydd y datblygiad nawr yn gyfangwbl o fewn safle sydd wedi'i ddynodi'n benodol ar gyfer adeiladu tai o fewn ffin ddatblygu Chwilog

Fe siaradodd rhai aelodau o blaid y cais, gyda Berwyn Parry Jones ymysg y rhai i ddatgan bod peryg o "amddifadu" Cymry Cymraeg lleol rhag cael mynediad at dai rhent fforddiadwy drwy wrthod y datblygiad.

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn at y ffaith bod caniatâd amlinellol eisoes wedi ei roi i godi 21 o dai ar yr un safle yn 2015, ac felly, "nad oedd yn gweld unrhyw reswm" dros wrthod datblygiad o dai fforddiadwy ar y safle.

Penderfyniad terfynol y pwyllgor oedd i ganiatáu'r cais o 10 pleidlais i bump.

Y tai yn rhai fforddiadwy - datblygwr

Mae pentref Chwilog yn cael ei ystyried yn ardal o "bwysigrwydd ieithyddol" lle mae tua 80% yn gallu siarad Cymraeg - mae ymhlith y cymunedau â'r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd.

Er bod y cynllun wedi'i addasu a nifer y tai yn is, fe wrthwynebodd Cyngor Cymuned Llanystumdwy y cais yn unfrydol gan grybwyll sawl rheswm.

Mae'r rheiny'n cynnwys yr effaith bosib ar y Gymraeg ac ar gymeriad Chwilog, a phryder y byddai codi gormod o dai yn creu "straen ar y pentref".

Mae'r datblygwyr wedi dadlau'n gyson fod "angen cynyddol am dai fforddiadwy", gan ddweud eu bod wedi "gweithio'n agos gyda'r cyngor i sicrhau bod y math o dai yn cwrdd â'r angen lleol".

Fe fydd y tai yn cael eu hadeiladu ar dir ger Cae Capel, sef tir pori amaethyddol sydd wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu y pentref ar safle sydd wedi'i ddynodi yn benodol ar gyfer codi tai.

Mae'r datblygiad bellach yn cynnwys pedwar fflat un ystafell wely, naw tŷ dwy ystafell wely, chwe thŷ tair ystafell wely ac un byngalo dwy ystafell wely.

Yn ôl y datblygwyr fe fyddai'r cyfan yn 100% tai fforddiadwy ac yn gymysgedd o ran deiliadaeth gan gynnwys tai rhent cymdeithasol a thai rhent fforddiadwy canolradd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig