Crynodeb

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:43 GMT+1

    Dyna ni o sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw - y bedwaredd a gymerwyd gan Rhun ap Iorwerth.

    Gallwch barhau i wylio'r trafodion tan ddiwedd y cyfarfod llawn heddiw trwy glicio ar yr eicon "Gwylio'n Fyw" ar frig y llif byw.

    Eto i ddod mae datganiadau ar flaenoriaethau ar gyfer effeithiolrwydd llywodraeth a’r cyfansoddiad, a blaenoriaethau ar gyfer gwydnwch gwledig a chynaliadwyedd. Hefyd, datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid ar gyllideb atodol gyntaf 2026-27.

    Diolch am ddilyn - mae gweddill straeon y dydd ar hafan Cymru Fyw.

  2. 'Angen bargen well arnom i Bowys' gan nad oes gennym ysbyty cyffredinolwedi ei gyhoeddi 14:42 GMT+1

    jane dodds

    Powys yw'r unig fwrdd iechyd yng Nghymru heb "ysbyty cyffredinol" ac mae'n rhaid i gleifion yn nwyrain y sir fynd i ysbytai yn Lloegr, meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds.

    "Mae angen bargen well arnom i Bowys", meddai.

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod ei lywodraeth "yn gwybod am y pwysau ym Mhowys".

    "Pam y dylai pobl, ar un ochr i'r ffin, deimlo eu bod yn derbyn gofal is-safonol? Mae'n fater y mae fy ngweinidog yn ymwybodol iawn ohono," ychwanega.

  3. 'Pob gweinidog yn y llywodraeth hon yn weinidog Cymru gyfan'wedi ei gyhoeddi 14:33 GMT+1

    Dulyn yw'r brifddinas agosaf i ogledd-orllewin Cymru, nid Caerdydd, meddai Adrian Mason o Reform.

    Mae'n gofyn a yw'r prif weinidog yn derbyn bod angen polisi economaidd ar y rhanbarth wedi'i lunio yn seiliedig ar sut y mae'r rhan honno o Gymru yn "gweithio mewn gwirionedd... gyda chysylltiadau cryf â gogledd-orllewin Lloegr ac economi Môr Iwerddon, nid dim ond gan sut mae'n edrych o Fae Caerdydd".

    Atebodd y prif weinidog, "Caeredin yw'r brifddinas agosaf i bobl sy'n byw yn Newcastle, dydw i ddim yn siŵr beth yw'r pwynt y mae'r aelod yn ceisio ei wneud".

    "Mae pob gweinidog yn y llywodraeth hon yn weinidog Cymru gyfan, a bydd hynny yr un mor wir mewn datblygu economaidd, ag mewn unrhyw beth arall."

  4. 'Dirywiad hirdymor canol tref Llanelli' yn bryderwedi ei gyhoeddi 14:23 GMT+1

    Mae Carmelo Colasanto, AS Sir Gaerfyrddin Reform, yn holi ynghylch strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio'r stryd fawr a chynyddu nifer yr ymwelwyr i fusnesau lleol.

    Meddai: "Rydw i wedi gweld dirywiad hirdymor canol tref Llanelli, wedi'i yrru gan gyfuniad o heriau economaidd-gymdeithasol a manwerthu. Mae colli diwydiannau traddodiadol yn y dref wedi lleihau cyfleoedd cyflogaeth lleol ac wedi gwanhau'r pŵer gwario o fewn y gymuned.

    "Ar yr un pryd, mae twf parciau manwerthu y tu allan i'r dref wedi gwaethygu'r broblem, gan gynnig parcio am ddim a siopau mwy sydd wedi denu siopwyr i ffwrdd o ganol y dref."

    Dywed Rhun ap Iorwerth: "Mae sefydlu'r tasglu canol trefi mor bwysig. Dyna pam mae'r gwaith ar hynny'n dechrau nawr.. gan edrych ar yr holl offer sydd ar gael iddo o amgylch trethi busnes ac yn y blaen, i weld a allwn ni wir fywiogi canol ein trefi mewn ffordd nad ydym wedi'i gweld ers amser maith."

    Cynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd ddiwethaf ymchwiliad, dolen allanol i adfywio canol trefi yng Nghymru. Yn ei adroddiad, galwodd y pwyllgor ar i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gyflymu’r gwaith o adfywio canol trefi a mynd ati i gefnogi rhanddeiliaid lleol yn well.

    LlanelliFfynhonnell y llun, Google
  5. 'Llethr helaeth' ar lwybr newydd posibl i ysgol yn sir Caerffiliwedi ei gyhoeddi 14:16 GMT+1

    llyr P

    Mae AS Reform Llyr Powell yn gofyn am gludiant ysgol. Dywed fod cannoedd o ddisgyblion yn wynebu toriadau yng nghyngor bwrdeistref sirol Caerffili.

    Dywed Powell ei fod wedi cerdded llwybr newydd posibl sydd â "llethr helaeth".

    Dywed ap Iorwerth ei fod yn benderfyniad lleol i'w wneud gan awdurdodau lleol, ac mae'n dweud bod cynnig Caerffili i ddisgyblion yn well na'r hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Ond mae'n dweud y bydd ei lywodraeth yn gweithio gyda chynghorau i geisio dod o hyd i "atebion mwy hirdymor".

    Liz McLean
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd Liz McLean o Blaid Cymru nad yw'n cytuno gyda Llyr Powell o Reform yn aml ond eu bod yn cytuno ar y mater yma

    Dywedodd Liz McLean, o Blaid Cymru, ei bod yn cytuno â Powell: "Ac nid yw hyn yn mynd i ddigwydd yn aml".

    Dywedodd ei bod hi hefyd wedi cerdded gyda'r plant a'r bobl ifanc yn yr ardal - galwodd am adolygiad llawn o gyfraith 2008 a oedd yn gysylltiedig.

    Atebodd y prif weinidog y bydd yn "sicr yn gweithio gydag awdurdodau lleol i chwilio am ffyrdd o wella pethau".

  6. Amseroedd aros y GIG: 'Camau ar waith i leihau'r amseroedd aros'wedi ei gyhoeddi 14:12 GMT+1

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, yn crybwyll y £145m o gyllid ychwanegol ar gyfer GIG Cymru yn y gyllideb atodol a gyhoeddwyd heddiw, gan gyhuddo'r prif weinidog o fabwysiadu'r "un dull plastr gludiog â llywodraeth Lafur Cymru flaenorol a fethodd â buddsoddi yn y seilwaith i gadw amseroedd aros i lawr yn barhaol".

    Dywed ap Iorwerth fod dull ei lywodraeth yn ymwneud â "sicrhau ein bod yn rhoi'r camau ar waith nawr, sy'n lleihau'r amseroedd aros mewn ffordd sy'n meithrin capasiti er mwyn atal yr amseroedd aros rhag cynyddu eto".

    GIGFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. A ddylai Cymru fod yn "aelod llawn o NATO"?wedi ei gyhoeddi 14:10 GMT+1

    Talodd Ken Skates deyrnged a diolch i'r prif weinidog Syr Keir Starmer, a ymddiswyddodd ddydd Llun, gan ddweud ei fod yn un o'r "gwleidyddion mwyaf urddasol rydw i wedi'u hadnabod".

    Mae'n gofyn i'r prif weinidog a yw'n credu y dylai Cymru fod yn "aelod llawn o NATO" y tu mewn neu'r tu allan i'r DU.

    Ken SkatesFfynhonnell y llun, bb

    Mewn ymateb, dywed ap Iorwerth: "Nid yw fy mhlaid erioed wedi dadlau nac awgrymu y dylai'r DU dynnu allan o NATO ac nad yw erioed wedi bod yn safbwynt i mi, fy mhlaid na fy llywodraeth."

    Mae'n ychwanegu: "Mae NATO yn chwarae rhan bwysig iawn."

    Mae Skates yn gofyn a yw Plaid Cymru am weld toriadau llym mewn gwariant amddiffyn.

    Dywed ap Iorwerth: "Rwy'n cydnabod ac mae fy llywodraeth yn cydnabod bygythiadau sy'n newid - ein bod yn wynebu bygythiadau go iawn."

    "Ar yr adegau hynny mae angen cydnabod yr angen i fuddsoddi'n iawn mewn amddiffyn confensiynol."

    Ond mae'n dweud na ddylai Llywodraeth y DU "heb drafodaeth, wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar allu llywodraethau, boed yng Nghymru neu rannau eraill o'r ynysoedd hyn, i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus."

    Ymddengys ei fod yn cyfeirio at yr effaith bosibl ar gyllidebau Llywodraeth Cymru o doriadau gwariant yn Lloegr.

  8. Gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd newydd wedi dod i ben?wedi ei gyhoeddi 14:03 GMT+1

    Mae Dan Thomas hefyd yn gofyn a yw gwaharddiad llywodraeth flaenorol Llafur Cymru ar adeiladu ffyrdd newydd wedi dod i ben.

    Nid yw ap Iorwerth yn dweud ei fod yn cefnogi'r hen waharddiad, ac yn awgrymu y bydd yn fodlon adeiladu ffyrdd.

    "Mae rhesymau cymdeithasol ac economaidd da iawn pam mae angen symudiad mawr o bobl i ffwrdd o ddefnyddio ceir mewn ffordd draddodiadol," meddai.

    Mae'n ychwanegu y bydd y llywodraeth yn edrych ar fuddsoddi yn y rhwydwaith ffyrdd lle bo angen.

    dan
  9. Datganoli?: 'Rhestri aros hir, canlyniad addysg gwael a diweithdra uchel'wedi ei gyhoeddi 13:58 GMT+1

    Dywed arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas: "Roeddech chi ar y radio y bore yma yn siarad am y rhestr ddymuniadau datganoli y byddwch chi'n ei chyflwyno i'r prif weinidog newydd.

    "Ond gadewch i ni edrych ar hanes datganoli yng Nghymru ac ar y meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli. Un o bob pedwar o bobl ar restr aros y GIG... canlyniadau addysg y gwaethaf yn y DU a diweithdra ar ei uchaf yn y DU."

    Ychwanegodd: "Mae angen Llywodraeth Cymru arnom sy'n canolbwyntio ar y materion mwyaf y mae Cymru'n eu hwynebu nawr. Wrth ymgyrchu, ni ddywedodd neb wrthyf eu bod eisiau rheilffyrdd na Ystad y Goron na chyfiawnder wedi'i ddatganoli."

    Atebodd y prif weinidog: "Rwy'n synnu braidd bod y blaid hon a oedd i fod i gofleidio datganoli ac eisiau iddo weithio i Gymru, bellach yn dod allan yn agored ac yn dweud eu bod nhw'n erbyn datganoli i bob pwrpas."

    Dywed bod pobl yng Nghymru yn "deall anghyfiawnder HS2 yn llwyr a phe bai gennym ddatganoli rheilffyrdd a'r cyllid sy'n dod gydag ef, gallem adeiladu seilwaith a allai roi dyfodol i'n pobl ifanc yma yng Nghymru oherwydd ein bod yn buddsoddi yn y pethau sy'n bwysig iddyn nhw."

    HS2Ffynhonnell y llun, HS2
  10. 'Degawd ers Brexit mae'r effeithiau'n dal i gael eu gweld o hyd'wedi ei gyhoeddi 13:54 GMT+1

    Ar 23 Mehefin 2016 fe bleidleisiodd mwyafrif o etholwyr y Deyrnas Unedig - a Chymru hefyd - o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

    Union ddegawd yn ddiweddarach mae effeithiau'r daeargryn gwleidyddol hwnnw i'w gweld o hyd ar ein gwleidyddiaeth, yn ôl rhai oedd yn rhan o'r ymgyrchu yr haf tyngedfennol hwnnw.

    Mwy yma.

    BrexitFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Twristiaeth ym Mangor Conwy Môn - pa gymorth i fusnesau?wedi ei gyhoeddi 13:46 GMT+1

    Janet Finch-SaundersFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Janet Finch-Saunders

    Daw'r ail gwestiwn gan Janet Finch-Saunders, AS y Ceidwadwyr ym Mangor Conwy Môn, sydd am wybod pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fusnesau twristiaeth ym Mangor Conwy Môn.

    Dywed Rhun ap Iorwerth: "Mae fy llywodraeth yn benderfynol o wneud y gorau o'r cyfleoedd sy'n codi o dwristiaeth ac i wneud hynny mewn ffordd sy'n gynaliadwy i'r sector ei hun ac i gymunedau Cymru."

    Mae Janet Finch-Saunders yn gofyn: "A wnewch chi ystyried gweithio gyda Llywodraeth y DU a cheisio dod â rhaff achub i mewn i'r busnesau twristiaeth gwerthfawr hynny trwy edrych ar gyflwyno cyfradd TAW o 10% ar dwristiaeth a lletygarwch?"

    Mae'r prif weinidog yn ateb: "Mae fy mhlaid wedi galw ers tro am gymryd camau gweithredu drwy TAW i helpu twristiaeth. Mae'n ddadl a wnaethom fel gwrthblaid ac mae'n achos y byddwn yn dal i'w gyflwyno fel llywodraeth."

    Yn gynharach y mis hwn fe drefnodd Janet Finch-Saunders gyfarfod gyda'r nod o ddechrau "trafodaeth drawsbleidiol i sicrhau datrysiad hirdymor i'r problemau sy'n wynebu'r ddwy bont bresennol" dros y Fenai.

    Mae canllaw i fusnesau bach, dolen allanol gan Ymchwil y Senedd yn cynnwys gwybodaeth am gefnogaeth i fusnesau twristiaeth.

    Mae Pont y Borth yn 200 oedFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Pont y Borth yn 200 oed

  12. Cefnogi economi Gŵyr Abertawe 'yn sgil amgylchiadau economaidd difrifol'wedi ei gyhoeddi 13:40 GMT+1

    Daw'r cwestiwn cyntaf gan John Davies, AS Plaid Cymru, sy'n gofyn pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi economi ei etholaeth.

    Dywed Rhun ap Iorwerth: "Economïau lleol yw sylfaen cymunedau ffyniannus fel Gŵyr, Abertawe, lle bydd fy llywodraeth yn canolbwyntio ar adeiladu economi sy'n creu swyddi da, yn datblygu sgiliau ac arloesedd, ac yn sicrhau bod mwy o gyfoeth yn cael ei gynhyrchu a'i gadw'n lleol.

    "Mae hynny'n golygu cryfhau cadwyni cyflenwi rhanbarthol, cefnogi cynhyrchiant a buddsoddiad, a sicrhau bod twf economaidd yn darparu manteision parhaol i gymunedau ledled Cymru."

    Dywed John Davies: "Mae Abertawe yn wynebu amgylchiadau economaidd difrifol. Y llynedd, collodd Abertawe 1349 o swyddi. Dyna grebachiad o 1.3% yn y gweithlu ers i Lafur gymryd rheolaeth yng Nghymru."

    GŵyrFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  13. Y rhybudd coch prin iawn ar wres eithafolwedi ei gyhoeddi 13:34 GMT+1

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Senedd Cymru

    Mae'r prif weinidog yn dechrau trwy wneud datganiad ar y rhybudd coch prin iawn ar wres eithafol sydd wedi'i gadarnhau ar gyfer rhannau o Gymru yfory a dydd Iau.

    Meddai, "Gall pob un ohonom chwarae ein rhan i gadw ein hunain, ein hanwyliaid a'n cymdogion yn ddiogel, yn enwedig yr henoed, babanod, plant ifanc. Drwy ddilyn canllawiau iechyd y cyhoedd yn ofalus, rwyf am annog pobl i osgoi nofio mewn dŵr agored. Gall sioc dŵr oer fod yn angheuol, fel yr ydym wedi clywed mewn achosion trasig yn ystod y cyfnod diweddar o wres uchel."

    tywydd
  14. Y sesiwn wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 13:30 GMT+1

    Mae sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog wedi dechrau yn y Senedd.

    Mae modd gwylio'r cyfan trwy glicio ar yr eicon "Gwylio'n Fyw" ar frig y llif byw.

  15. Rhun ap Iorwerth: 'Angen perthynas well gyda rhif 10'wedi ei gyhoeddi 13:23 GMT+1

    Ddydd Llun fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth ddymuno'n dda i Keir Starmer, ond dywedodd ei fod yn "siomedig bod gallu Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â Phrif Weinidog y DU ar faterion sy'n bwysig i bobl Cymru yn cael ei rwystro gan yr ansefydlogrwydd yn San Steffan".

    "Hoffwn weld ei olynydd yn cydnabod bod angen perthynas newydd rhwng Cymru â San Steffan, gyda ffocws ar fwy o bwerau, cyllid teg, a pharch at y mandad democrataidd a gyflwynwyd gan bobl Cymru.

    "Bydd fy llywodraeth a minnau bob amser yn ceisio cael perthynas adeiladol gyda phwy bynnag sydd yn Rhif 10, ond mae gennym ddisgwyliadau clir bod rhaid i'r agenda parch weithio'r ddwy ffordd."

    StarmerFfynhonnell y llun, Reuters
  16. Croesowedi ei gyhoeddi 13:17 GMT+1

    Croeso i Gwestiynau i'r Prif Weinidog - cyfle wythnosol yn y Senedd i'r gwrthbleidiau ac ASau meinciau cefn i holi arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

    Mae'r rhan fwyaf o gwestiynau yn cael eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a'u dewis drwy falot.

    Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.

    Ar ôl cwpl o gwestiynau sydd wedi'u cyflwyno ymlaen llaw, byddwn yn clywed gan Dan Thomas o Reform, Ken Skates o'r blaid Lafur a Darren Millar o'r Ceidwadwyr.

    Senedd