|
|
 |

 |
Helo!
Judy ydw i. Fi sy'n rhedeg y cylch chwarae ac mae Max a finnau'n
edrych ar ôl y Tweenies tra'u bod nhw yma. |
|
 |
|
 |
Oren
yw fy hoff liw. 'Dwi'n hoffi bwyta orenau hefyd a llawer o ffrwythau
a llysiau eraill. 'Dwi'n hoffi tyfu rhai ohonyn nhw yn fy ngardd adre.
|
|
 |
Mae
bob amser llawer i'w wneud - yn trefnu pethau, yn gwneud yn sicr bod
gennym ni bopeth sydd ei angen, a thrwsio pethau sydd angen mendio!
|
 |
 |
Weithiau
mae Max a finnau'n mynd ar wibdeithiau gyda'r Tweenies - aethon ni
i lan y mor i gael picnic mor-ladron unwaith, ac ar dro arall fe aethon
ni i weld ble mae ein sbwriel yn mynd a'r holl bethau mae modd eu
hailgylchu.
|
 |
Rydyn
ni'n canfod llawer o bethau ar ein cyfrifiadur hefyd, o fideos i CD
ROMS - ac weithiau mi ddefnyddiwn ni'r We i ddarganfod am bethau,
fel eliffantod. |
 |
|
 |
| |
Rwy'n
hoffi gwrando ar gerddoriaeth - unrhyw beth gyda thiwn dda - ac rwy'n
hoff o ganu hefyd. |
Pwy
hoffet ti gwrdd nesa'? |
|
|