Cysylltodd
Bella y dotiau i gyd er mwyn gwneud pont hudolus. Ymddangosodd
y bont hud o flaen eu llygaid.
Dilynodd
y Tweenies y llwybr dros y bont hud ac yna i lawr i fôr
glas dwfn. Nawr, fe allent weld yr ynys hud yn y pellter, ond
doeddent ddim yn gwybod sut i groesi'r dyfroedd a oedd yn llawn
siarcod!
'Ho, ho, ho!' gwaeddodd y cawr, a oedd yn glos y tu ôl
iddynt.