|
|
 |
"MMM,
Sêr Sbeisi Hud -
fy ffefryn!!"
|
|
|
Sêr
Sbeisi Hud !
|
 |
Bydd
angen:
250g o flawd plaen
125g o fenyn
125g o siwgwr brown
1 wy bach, wedi'i guro
2 llwy de o sbeis cymysg
Ar gyfer yr eisin:
125g o siwgwr eisin
1-2 llwy de o ddwr poeth
Lliw bwyd
- Cymysgu'r menyn a'r siwgwr nes eu bod yn ysgafn ac yn fflyfflyd.
Yn ara' deg, curo'r wy i fewn fesul tipyn
- Rhoi'r blawd, yr halen a'r sbeis mewn gogor a'u hysgwyd drwyddo.
Cymysgu hwn gyda'r cymysgedd o fenyn, siwgwr ac wy nes bod gennych
belen gadarn o does
- Rholio'r toes allan gyda rholiwr nes ei fod 1/2cm o drwch
- Torri allan siapiau sêr gan ddefnyddio torrwr siâp
sêr
- Rhoi'r siapiau ar badell bobi wedi ei iro a phobi yn y ffwrn
am 15 munud (190°C/375°F/Marc Nwy5)
- I wneud yr eisin, cymysgu'r siwgwr eisin a'r dwr poeth, wedyn
ychwanegu'r lliw bwyd - bydd unrhyw liw yn gwneud y tro - ond
coch yw fy hoff liw i!
- Pan mae'r bisgedi wedi oeri, taenu'r eisin ar bob un
- Er mwyn ychwanegu cyffyrddiad bach hudol arall, addurno'r
bisgedi gyda pheli bach arian - ond gwneud yn sicr fod y peli
yn cael eu rhoi ar yr eisin cyn iddo galedu!
- Unwaith maen nhw wedi cael eu pobi a'u taenu gyda'r eisin,
dyna nhw wedi troi'n Sêr Sbeisi Hud!
|
rysait
|