|
|
 |
"MMM,
pancos
fy hoff beth!!"
|
|
|
Pancos!
|
 |
Bydd
angen :
250g o flawd plaen
pinsiad o halen
550ml o laeth
2 wy
1 llwy fwrdd o fenyn wedi toddi
- Rhoi'r blawd a'r halen mewn gogor a'u hysgwyd drwyddi i fewn
i fowlen gymysgu fawr
- Gwneud lle yng nghanol y blawd ac ychwanegu'r wyau. Chwisgio'r
cymysgedd.
- Ychwanegu'r llaeth fesul tipyn nes bod y cymysgedd yn esmwyth
- Cymysgu'r menyn i fewn
- Toddi ychydig o fenyn mewn padell ffrïo fach. Pan mae'n
boeth, ychwanegu digon o'r cymysgedd i wneud haen denau ar waelod
y badell
- Coginio'r ddwy ochr nes eu bod yn euraid, wedyn eu bwyta gyda
lemon a siwgwr!
|
rysait
|