|
|
 |
"MMM,
does dim byd gwell gen i na Breuddwydion Caws!!"
|
|
|
Breuddwydion
Caws!
|
 |
Bydd
angen :
4 tafell drwchus o fara menyn (gelli hyd yn oed dorri'r crystiau
i ffwrdd!)
2 wy
2 lwy fwrdd o laeth
2 lwy fwrdd o olew
pupur a halen
sawl tafell o gaws Cheddar
- Chwisgio'r wyau gyda'r llaeth a thaenu gyda halen a phupur
- Twymo'r olew mewn padell ffrïo
- Cymryd dwy dafell o fara a rhoi caws rhyngddyn nhw er mwyn
gwneud brechdan
- Trochi'r frechdan gaws yn yr wy
- Rhoi'r frechdan gaws-ac-wy yn y badell ffrïo boeth a
choginio ar y ddwy ochr nes ei bod yn frown euraid!
|
rysait
|