|
|||||||||
|
|
Testun yn unig |
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 |
|
Gwneud Raswyr Tweenies
Os hoffet wneud Raswyr Tweenies er mwyn cael ras magnetau fel y Tweenies, gelli ddysgu sut mae eu gwneud nhw yma. Gofyn i oedolyn am gymorth, a rho gynnig arni! 1. Torri sgwâr allan o'r cerdyn tenau. 2. Tynnu llun o dy hoff Tweenie ar y cerdyn. 3. Gosod cylch metel rhwng eu traed gyda thâp gludiog. 4. Plygu'r cerdyn i fyny wrth ben ucha'r cylch metel fel bod dy ddarlun yn sefyll i fyny. 5. Nawr rwyt ti wedi gwneud Rasiwr Tweenies. Gwna'r un peth gyda'r Tweenies eraill fel bod modd eu defnyddio nhw i gyd ar y trac rasio! |
||
| About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |