|
|||||||||
|
|
Testun yn unig |
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 |
|
Gwneud Gwynebau Bisged Blasus
Mae gwynebau bisged yn blasu'n grêt, ac maen nhw'n edrych yn grêt hefyd! Beth am wneud rhai gwynebau bisged arbennig i dy ffrindiau i gyd? Gofyn i oedolyn am gymorth a rho gynnig arni! 1. Yn gyntaf, rhaid gwneud y eisin drwy gymysgu'r siwgwr eisin gyda dwr. 2. Cymryd yr eisin a'i daenu ar draws top y bisgedyn. 3. Nawr cymryd y melysion/losin a'u trefnu'n ofalus ar y bisgedyn er mwyn gwneud gwyneb. Gallet ti wneud pa bynnag fath o wyneb hoffet ti. Gadael y bisgedi mewn lle claear sych er mwyn iddyn nhw sychu. Unwaith maen nhw'n sych maen nhw'n barod i'w bwyta! |
||
| About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |