|
|||||||||
|
|
Testun yn unig |
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 |
|
Gwneud Clustiau Cwningen
Mae'r Tweenies wedi mwynhau gwneud clustiau cwningen (neu sgwarnog). Os hoffet ti wneud rhai hefyd, dyma sut! Gofyn i oedolyn dy helpu a rho gynnig arni! 1. Gwneud band gwallt drwy fesur maint pen dy blentyn yn erbyn y darn cyntaf o gerdyn ac wedyn torri'r cerdyn i'r hyd iawn. 2. Torri'r ddau stribedyn i siâp clustiau hir. 3. Lliwio rhan o un ochr y ddwy glust gan ddefnyddio pen ffelt pinc. 4. Plygu ochr binc y clustiau i fewn ychydig. 5. Clymu'r ddwy glust i ochr fewnol y band gwallt gan ddefnyddio tâp gludiog, gyda'r ochr binc i fewn. 6. Rhoi'r cyfan ar dy ben. Nawr rwyt ti'n barod o fod yn sgwarnog (neu'n gwningen)! |
||
| About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |