|
1. Paentio'r
llwy bren a'i adael i sychu, yna tynnu llun gwyneb ar y llwy.
|
|
2. Addurno'r
llwy gyda barf a gwallt os hoffet ti.
|
|
3. I
wneud coron, torri'r siâp allan o gerdyn, paentio fe'n aur neu'n
arian a gludo'r goron i'r llwy.
|
|
4. I
roi gemau i dy goron, rholia bapur arian yn beli bach a gludo nhw
ymlaen.
|
|
5. Torri
siâp corff, breichiau a choesau allan o gardbord a'u clymu i'w
gilydd gyda chortyn.
|
|
6. Gwisgo'r
corff cardbord gan ddefnyddio'r darnau sbâr o ddefnydd.
|
|
7. Gludo'r
corff i handlen y llwy bren gyda thâp gludiog. |
|
8. Nawr,
fe ddylai fod gennyt dy byped dy hun i chwarae gyda hi! |