|
|||||||||
|
|
Testun yn unig |
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 |
|
Gwneud Bwci-Bwystfil
Os hoffet wneud Bwci Bwystfil yn union fel un y Tweenies, dyma sut! Gofyn i oedolyn dy helpu a rho gynnig arni! 1. I wneud llygaid y Bwci Bwystrfil, rholio'r papur lliw i ddwy belen fach neu dorri allan dau gylch a'u gludo nhw ar y plât. 2. Lliwio smotyn bach ar y ddau lygad. 3. Torri allan siâp ar gyfer ceg y Bwci Bwystfil. 4. Gludo'r siâp ceg ar y plât, o dan y llygaid. 5. Os hoffet roi aeliau ar dy fwystfil, torra ddau ddarn bach o wlân a'u gludo ar y plât uwchben y llygaid. 6. Ar gyfer y gwallt, defnyddia stribedi o bapur lliw a'u gludo nhw i lawr. 7. Os hoffet wneud bwystfil sgleiniog, taenu glud ar y plât a thaenu gliter drosto. 8. I orffen, clymu'r ddwy ffon i gefn y plât gyda thâp gludiog. |
||
| About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |