|
|||||||||
|
|
Testun yn unig |
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 |
|
Gwneud Neidr Sbeiral
Os hoffet wybod sut wnaeth y Tweenies neidr sbeiral gelli di ddysgu sut i'w wneud yma. Gofyn i oedolyn dy helpu a rho gynnig arni! 1. Rhoi'r plât plastig neu bapur ar y darn o gerdyn a lliwio o amgylch yr yml. Torri'r cylch allan. 2. Tynnu llun sbeiral ar y cylch gyda phen y sbeiral yn gorffen ar ymyl y cylch. 3. Torri ar hyd y llinell rwyt ti wedi ei gwneud. 4. Gorchuddio'r sbeiral mewn glud. 5. Taenu gliter ar y sbeiral. Wedyn rhoi twll yng nghanol y sbeiral a rhoi cortyn drwyddo, gan ei glymu gyda chwlwm. 6. Nawr mae gen ti neidr sbeiral sgleiniog! |
||
| About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |