|
|||||||||
|
|
Testun yn unig |
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 |
|
Gwneud Pry Copyn/Corryn
Roedd Jake wrth ei fodd yn gwneud corryn, neu bry copyn? Os hoffet wneud un tebyg, gelli di ddysgu sut i'w wneud yma. Gofyn i oedolyn dy helpu a rho gynnig arni! 1. Y peth cynta' fyddi di ei angen yw darn o gerdyn wedi ei dorri yn gylch mawr. 2. Torri llinell syth o ymyl dy gylch i'r canol. 3. Gwneud siâp côn bach gyda''r cerdyn a selio'r côn i lawr ar un ochr gyda thâp gludiog. Gwna'n sicr dy fod yn gadael twll bach ar y brig. 4. Plyga'r côn yn ei hanner. 5. Ac wedyn yn ei hanner eto. 6. Ac unwaith eto, gan wneud cyfanswm o dri phlygiad. 7. Wedyn, lliwio dau saeth ar y siâp triongl rwyt ti wedi ei wneud. 8. Torri ar hyd y llinellau rwyt ti wedi eu tynnu. 9. Agor y siâp allan phlyga'r coesau yn y canol er mwyn gwneud pengliniau'r pry copyn neu'r corryn. 10. Rhoi sticeri bach ymlaen i wneud y llygaid. 11. Lliwio'r llygaid i mewn gyda dotiau bach. Wedi gorffen! |
||
| About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |