|
|||||||||
|
|
Testun yn unig |
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 |
|
Gwneud Jyngl
Creu dy jyngl dy hun! Gelli di fynd ar antur drwy'r jyngl a dychmygu'r holl anifeiliaid sydd i'w gweld yno! Dyma sut! Gofyn i oedolyn i helpu a rho gynnig arni! 1. Cymryd y papur gwyrdd a thynnu siapiau dail arno. 2. Nawr, torri'r siapiau allan gyda'r siswrn. Gwneud yn sicr dy fod yn creu llawer o'r dail yma. 3. Gludwch y darnau hir o bren ar y dail gyda thâp gludiog. 4. Nawr, cymryd y papur brown a'i rolio i wneud tiwb. 5. Torri nifer o stribedi o'r un maint tua chwarter y ffordd i mewn i'r tiwb yma. 6. Nawr, dal gafael ar tu fewn y papur brown a'i dynnu allan yn araf. Fe ddylai edrych fel boncyff gyda changhennau yn dod ohono. Pan rwyt ti'n hapus gyda siâp y boncyff, gludo'r tiwb wrth ei gilydd yn y gwaelod gyda thâp gludiog. Gallet wneud faint fynni di o'r boncyffion hyn. 7. Nawr, gludo'r dail ar y canghennau a'u trefnu nhw mewn siapau coed. Cymryd y coed a'u gosod o amgylch dy stafell nes bod gennyt dy jyngl di dy hun! |
||
| About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |