
 |
 |
Siom
wrth ddychwelyd i Gymru
Pethau wedi newid - ac nid er gwell yn yr henfro
Hydref 2002
|
gan
Lynda Ganatsiou, Cymraes o Thessaloniki, Gwlad Groeg
Roedd fy ymweliad â’m cartref yn ystod yr haf yn dymestl o deimladau
- rhai yn bleserus ond eraill yn annymunol.
Ymwelais â’r henwlad oherwydd bod fy mab yn graddio o Brifysgol Abertawe
a manteisiais ar y cyfle i ymweld â phentref fy ngeni - Y Bont.
Edrychwn ymlaen at gael gadael Seisnigrwydd Abertawe a theimlo'n gartrefol,
bydded hynny am amser byr yn unig
Ond siomedig iawn oedd gweld llawer o bobl ieuanc yr ardal heb syniad
sut i siarad yr iaith ac, yn waeth na hynny, heb wneud dim ymdrech
i’w dysgu.
Wedi aros yn llonydd
Gwelais "Y Bont " fel pe byddwn yn edrych ar ffilm gwyddoniaeth:
wedi sefyll yn llonydd mewn amser tra bo'r byd oddi amgylch wedi symud
ymlaen.
Yr oedd yr un mor gysglyd heddiw a phan adewais dros bum mlynedd ar
hugain yn ôl. Dim siw na miw o gwmpas ac fe'm syfrdanwyd gan brinder
pobl ieuanc – ble maen nhw i gyd? Dim ond oedolion oedd i’w gweld.
A fum i'n darllen gormod o lyfrau Stephen King?
O ddychwelyd fel hyn mae’n syndod pa bethau ydych chi'n sylwi arnynt!
Colli enwau tai
Tan hyn nid oeddwn erioed wedi meddwl peth mor braf yw cael enw ar
eich ty neu gael eich cysylltu â’ch ty fel Lynda Jones Tair-Onnen
yn fy achos i.
Gomer Jones Bryn Morfa oedd tadcu.
Dychmygwch fy siom o weld i'w berchnogion presennol ddifetha cymeriad
'ein ty ni' trwy ei ymestyn - a does dim enw bellach dim ond rhif
ar heol fel Bryn Piod drws nesa - er, gyda cymaint o adeiladu tai
newydd go brin fod pioden o fewn milltiroedd erbyn hyn.
Da chi Gymry, peidiwch â mynd allan o'r arfer o roi enwau ar eich
tai mai hynny sy'n ei gwneud yn eglur fod "teulu" yn byw yno a bod
cartref rhwng y muriau.
Hefyd, fe ddengys rhyw fath o etifeddiaeth o’r gorffennol a pha mor
agos i natur oedd ein cyndadau.
Enwau fel Murmur y Coed, Mynydd Gwyn, Awel Deg, Plas y Dderwen, Golwg
yr Afon , Gorphwysfa, Arosfa, Bod Alaw.
Yn Parga ar ochr orllewinol gwlad Groeg galwodd merch o Bontarddulais
ei thy yno yn Hafod y Coed.
Dinistrio darlun perffaith
Ag ychydig amser gennyf ymwelais a'm hoff lecyn a'i ganfod wedi ei
ddinistrio gan gynnydd.
A minnau wedi bod bant o Gymru am 28 o flynyddoedd gwelaf nad
manteision yn unig a ddaeth yn sgil cynnydd ond anfanteision diri
hefyd, yn enwedig yn Ne Cymru a ffrwyth cynnydd bellach ydy tlodi
a diweithdra.
Ond nid yw hyn wedi lladd ysbryd y bobl.
.
Wrth
edrych ar yr olygfa sylweddolais na ddaw ddoe byth yn ôl a daeth twlpyn
i'm llwnc wrth syllu ar beth oedd unwaith yn baradwys i’r arlunydd
a'm darlun perffaith innau wedi ei ddinistrio.
Unwaith, ar y morfa llaith yma safai un o hynodion mwyaf hynafol Dyffryn
Llwchwr, hen eglwys Llandeilo Tal-y-bont a wrthsafodd stormydd y canrifoedd
yn symbol o hanes a gorffennol pell ond yn awr wedi diflannu am byth.
Mae
hynafiaeth yr eglwys yn ddiamheuol gan iddi gael ei chysegru gan Sant
Teilo yn y chweched ganrif. Yn un o'r llawysgrifau hynaf, Llyfr Llandaf
(1160-1180) enwir y plwyf hwn bedair gwaith.
Rwy’n cofio dwyster mynychu gwasanaethau misol yn ystod Mehefin, Gorffennaf
ac Awst gan deimlo wrth droedio’r fynwent ein bod yn dilyn llwybrau’r
pererinion gynt ar eu ffordd i Dyddewi.
Yna, cofio’r oerni wrth fynd i mewn drwy’r cyntedd isel a naws arbennig
yn cydio ynom.
Dyna’r
seddau dyfnion â drysau mawr derw. Ni allwn byth ganolbwyntio ar y
bregeth wrth feddwl am y gwahanglwyfus a fu’n dilyn y gwasanaeth o'r
golwg mewn lle ar wahân i’r gynulleidfa y tu ôl i’r muriau ar ochr
arall yr eglwys.
Mae'n ardal a welodd lawer o golli gwaed. Bu’r Rhufeiniaid yn Leucarum
(Casllwchwr) hyd at 300 O.C. Daeth y Gwyddelod, Llychlynwyr a Normaniaid.
Ni allaf gredu ei bod wedi mynd ond codwyd rhywfaint ar fy nghalon
o glywed am fwriad i'w hailadeiladu yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan.
Twmpath o bridd
Ond twmpath o bridd yn unig a welir y funud hon lle unwaith bu adeilad
gwyngalchog ysblennydd, enghraifft o weithgarwch caled a diflino Oes
y Saint. Erys ei ogoniant mwyach ond mewn darluniau lliw.
Yma nid oes tawelwch i’r enaid bellach, ond bwrlwm y cerbydau yn brysio
ar draws gwlad.
"Yn y fro ddedwydd mae hen freuddwydion"
Disgrifiad perffaith o’m hatgofion innau ond o leiaf mae gennyf i
yr atgofion hyn - does gan ieuenctid y fro ddim.
Yn
nyddiau fy ieuenctid roedd yno fferm Castell Du, Pont yr Un ar Ddeg
Bwa, lle y gwyliwn y trên llaeth am chwech o’r gloch. Banc y Rhyfel
ac Afon Llwchwr yn troelli’n ddi-hid tuag at y môr.
Bro heb staen na chraith rhwng môr a mynydd nes i'r teirw dur
ddod i rwygo'r gwanwyn pêr o’r pridd a hollti'r olygfa gyda hyfrydwch
ar y chwith i'r lôn goncrit a gwacter ar y dde a’r modurwyr heb wybod
i ddalen werthfawr o hanes gael ei cholli.
Ffermdy emynydd
Ar noson lleuad llawn a’r llanw i mewn byddai’r eglwys yn nofio ar
ddrych o dwr mor llyfn â phe byddai wedi ei nyddu o sidan pur.
Gerllaw bu ffermdy Llandeilo Fach lle bu cartref yr emynydd Dafydd
Williams ac yng nghyntedd yr eglwys y cyfansoddodd ei emyn enwocaf,
"Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau".
Y munud hwnnw meddyliais y clywn gôr meibion "Y Bont" yn canu’r geiriau,
mor fyw oedd fy nychymig!
Gadewais yn chwithig a hiraethus gan wybod na fydd fy nheimladau dyfnaf
am fy nghartref byth yn newid – beth bynnag a ddigwydd yn y dyfodol.
[an error occurred while processing this directive] |
 |

| [an error occurred while processing this directive] |
|