![]() |
CA2 Creu Stori - Ysgrifennu storïau gwych!![]() ![]() ![]() Ansoddeiriau Bachgen da oedd Tomos. Roedd e bob amser yn dda i Miss Griffiths ac yn falch bob tro o fod yn fachgen da. Mae defnyddio'r gair 'da' sawl gwaith yn ddiflas. Darllenwch yr enghraifft yma sy'n defnyddio ansoddeiriau eraill: Bachgen cwrtais oedd Tomos. Roedd e bob amser yn ymddwyn i Miss Griffiths ac yn falch bob tro o fod yn fachgen da. Darllenwch y testun yma. Beth am feddwl am ansoddeiriau sydd yn well na 'cyffrous'. Teimlai Mared yn gyffrous cyn ei pharti gan ei bod wedi edrych ymlaen i ddiwrnod cyffrous ei phen-blwydd ers talwm. Roedd hi'n teimlo'n gyffrous fel hyn bob tro cyn achlysur arbennig! Nôl i ben y dudalen Idiomau Cerddodd Idwal adref â'i ben yn ei blu. Dim mwy! Roedd Huw yn un da am gynhyrfu'r dyfroedd, ond roedd Nia wedi cael llond bol arno'n tynnu ei choes byth a beunydd. Gallwch ddefnyddio idiomau hefyd pan mae'r cymeriadau'n siarad. Mae hyn yn sicr yn dangos gwelliant yn y gwaith! "Pam wyt ti wedi cochi at dy glustiau? Oes cywilydd arnat ti neu rywbeth?" gofynnodd Branwen yn ymosodol. "Pam dy fod di wedi codi mor fuan heddiw? Rwyt ti wedi codi cyn cŵn Caer?!" holodd Anti Fflur mewn penbleth gan gau ei gŵn nos. Nôl i ben y dudalen Arafu a chyflymu stori Gallwch newid cyflymder eich storïau trwy newid ac addasu hyd y brawddegau. Mae brawddegau hir yn gallu cyfleu naws araf neu hamddenol. Cerddodd Leusa'n ling-di-long ar hyd y llwybr hir i'r parc gan nad oedd dim brys yn y byd arni i gyrraedd. Roedd wedi gorffen ei gwaith cartref, felly yr unig beth oedd angen iddi ei wneud oedd prynu'r hufen iâ mwyaf blasus a welsoch chi'n eich dydd erioed a'i fwyta'n araf, araf! Mae brawddegau byr yn gallu cyfleu naws gyffrous neu ofnus, er enghraifft: Brysiodd. Arhosodd yn ei unfan. Beth nesaf? Edrychodd yn ofnus i'r tywyllwch dudew! Cerdded...Rhedeg... Mae amrywio hyd y brawddegau'n bwysig er mwyn arafu a chyflymu'r stori. Mae hyn yn effeithio ar awyrgylch y stori! Nôl i ben y dudalen Cynnal y diddordeb Mae darllen stori dda yn gallu bod yn brofiad gwych! Weithiau, mae'r storïau'n gallu mynd yn hir ac weithiau'n ddiflas! Dyna pam ei bod yn bwysig cadw a chynnal diddordeb y darllenydd. Mae sawl ffordd gallwch chi gyflawni hyn:
Pwy ddaeth heibio ond Peredur y Postmon - un da oedd o am gario clecs! Doedd dim ond yn rhaid i chi arafu ac fe fyddai wedi cael y cyfle i ddweud stori am unrhyw un yn y pentref.
Yn anffodus, roedd wal dal iawn yn eu wynebu! I ble allen nhw ddianc y tro hwn? I ba gyfeiriad oedd Swyddfa'r Heddlu? Clywon nhw'r lleisiau'n agosáu, yn agosáu nes...
Roedd y môr yn hollol wahanol i'r diwrnod blaenorol. Roedd ei ddannedd yn rhwygo'r clogwyni gyda'r sŵn byddarol yn atseinio ar hyd y traeth. Beth gafodd ei boeri i'r lan ond cist fechan - cist a fyddai'n datgelu tynged y tri! Nôl i ben y dudalen Nôl i'r dudalen flaenorol |
![]() |