![]() |
CA2 Creu Stori - Datblygiad StoriEfallai byddwch yn gallu meddwl am sawl peth fyddai'n gallu digwydd yn y stori. Mae un neu ddau o ddigwyddiadau'n ddigon! Gallwch chi ysgrifennu am y canlynol:
Ble all y fodrwy fod wedi diflannu? Roedd tasg enfawr yn wynebu Dreigiau Dinefwr! Rhedodd y lleidr fel bollt o wn gan neidio dros gloddiau fel ebol blwydd. Ond yn ffodus roedd yr heddlu'n aros amdano ar ddiwedd y cae!
Roedd Ffred yn gallu bod yn gas iawn - a dweud y gwir, fe oedd bwli'r pentref. Ond un diwrnod fe gafodd e ail...
"Mae pob dim yn rhedeg fel wats!" gwaeddodd Miss Huws o gefn y bws.
Doedd hyn erioed wedi digwydd i Robin o'r blaen! Cyfrifiadur yn sgwrsio ag e'! Ond doedd neb yn ei gredu! Diwedd cadarn
Ond yn anffodus, nid oedd Mair yn siŵr beth oedd wedi digwydd...
Beth petai Carys wedi rhedeg ar ôl y lleidr? Tybed beth fyddai wedi digwydd wedyn?
Doedd Catrin byth yr un fath ar ôl y diwrnod hwnnw. Roedd hi'n gaeth i'w chadair olwyn am weddill ei bywyd. Disgynnai'r dagrau'n araf, araf i lawr ei boch wrth iddi weld ei ffrindiau'n chwarae'n llon yn y parc. Dyna beth oedd camgymeriad, camgymeriad y byddai'n talu'n ddrud amdano gweddill ei bywyd. |
![]() |