Dewch i weld y gwahanol fathau o storïau sydd i'w cael!
1. Stori gyffrous
Gall ddigwyddiadau neu anturiaethau cyffrous ddigwydd i'r cymeriadau.
2. Stori ddoniol am anifail

Gallwch chi fod yn greadigol a chael yr anifail i siarad tra'i fod yn cael pob math o anturiaethau.
3. Stori hapus neu drist am deulu
Gallwch chi ysgrifennu am achlysur sy'n effeithio'r cymeriadau'n benodol.
4. Stori ddirgelwch am hen adeilad

Dyma gyfle da i greu awyrgylch a disgrifio anturiaethau cymeriadau direidus.
5. Stori wyddonias

Dyma gyfle i sôn am hynt a helynt cymeriadau yn y dyfodol sy'n edrych yn wahanol, er enghraifft, trychfil-ddyn efallai.
6. Stori tylwyth teg
Dyma gyfle i chi sôn am bob math o bethau sy'n digwydd mewn byd hud a lledrith.
7. Stori draddodiadol
Dyma gyfle i chi addasu hen, hen stori neu chwedl rydych chi wedi ei chlywed ac efallai cael tair problem i'w datrys fel yn yr hen chwedlau.
Mae'r rhestr yn ddiddiwedd!
Rhestrwch y mathau gwahanol o storïau rydych chi wedi eu hysgrifennu yn y dosbarth eleni. Rhannwch eich rhestr gyda gweddill y dosbarth.
Nôl i'r dudalen flaenorol