CA2 Creu Cerdd - Hyd llinellau

Mae hyd llinellau'n bwysig mewn cerddi.

Mae'r bardd yn gorfod cyfri sawl sillaf sydd ym mhob llinell er mwyn cadw at y patrwm hwnnw.

Ydych chi'n cofio beth yw sillaf (unigol) neu sillafau (lluosog)?

Y nifer o synau mewn gair yw sillaf. Fe allwn ni glapio sillafau i'n helpu ni.

Dywedwch a chlapiwch y geiriau canlynol:

Môr - 1 sillaf
Cath - 1 sillaf

Mynydd - 2 sillaf
Cadair - 2 sillaf

Gwasanaeth - 3 sillaf
Awyren - 3 sillaf

Bythgofiadwy - 4 sillaf
Cyfrifiadur - 4 sillaf

Efallai ei bod o gymorth i chi i feddwl am sillafau fel grisiau, er enghraifft:

Dyma hwiangerdd sy'n gyfarwydd i chi! Darllenwch y pennill ac ewch ati i gyfri'r sillafau sydd ym mhob llinell.

Beth yw cerdd?Dau gi bach yn mynd i'r coed,
Esgid newydd ar bob troed
Dau gi bach yn dwad adre'
Wedi colli un o'u sgidie.