BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cofio...?
Roland Rat a Kevin Atgofion 1985
Beth ydych chi'n cofio am 1985?
Roland Rat a Kevin

Beth yw eich atgofion chi o 1985? Cyfrannwch i'r dudalen hon drwy anfon eich atgofion atom - ewch i waelod y dudalen

"Roedd 1985 yn flwyddyn fawr yn ty ni. Dyma'r flwyddyn nes i ddathlu'r deg ar hugain, ac ar y 5ed o Chwefror, fe anwyd Bych i fod yn frawd i Daniel a chwbwlhau'r teulu Hardy. Roedd Geraint Wyn Hardy dair wythnos o flaen i amser - a dyna'r tro cyntaf mae o 'di bod yn gynnar yn 'i oes!

Yn y byd peldroed yn '85, gwelwyd y gêm yn Heysel rhwng Lerpwl a Juventus gyda thrais cefnogwyr Lerpwl yn benna gyfrifol am farwolaeth cefnogwyr Juventus. Dw i'n cofio Ian Rush yn dweud wrtha fi bod o yn yr ystafell wisgo yn gwybod yn union beth oedd yn mynd ymlaen a hefyd yn ymwybodol ei fod yn symud o Lerpwl i Juventus yn ystod yr Haf, ac yn poeni sut groeso y cai yn yr Eidal. O ran Bradford, r'on ni 'di bod yna ychydig wythnosau ynghynt ac yng nghanol dryswch bwrlwm diwedd tymor, roedd fy ngwraig yn meddwl 'mod i yno yn y tân. Trwy lwc, yn Wimbledon r'on i - dihangfa arall o drychineb."

John Hardy, Pontypridd


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Bryn Jones o Lanrug):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


Cofio...

[an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy