BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC Homepage
BBC Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cofio...?
Rhys Powys a Stanley Baker Dyma 1976
Y penawdau, y pethau, y bobl...
How Green was my Valley

Clicwch ar bwnc:

Cymru
Y Byd
Cerddoriaeth
Celfyddydau
Ffilmiau
Teledu a Radio
Chwaraeon
Gwyddoniaeth
Ffordd o Fyw
Marwolaethau

CYMRU

  • Rhyddhawyd John Jenkins ar ôl chwe blynedd o garchar am ymgyrch fomio Mudiad Amddiffyn Cymru yn ystod y 60au. Cyfrannodd enwogion at gronfa i baratoi tŷ iddd

  • Daeth Aelod Seneddol De Caerdydd, James 'Sunny Jim' Callaghan yn Brif Weinidog ar ôl i Harold Wilson ymddeol yn sydyn. Cafodd dair blynedd anodd iawn ynghanol argyfwng ariannol, gan geisio cynnal llywodraeth heb fwyafrif clir.

  • A daeth George Thomas, cyn-Ysgrifennydd Cymru, yn Llefarydd Tŷ'r Cyffredin a, gyda darllediadau radio'n dechrau yno yn ystod ei gyfnod, ef oedd y Llefarydd enwoca' ers canrifoedd.

  • Llwyddodd Plaid Cymru i greu sioc arall yn y Cymoedd, wrth gipio Cyngor Merthyr Tudful, dan arweiniad y cyn-ymgeisydd seneddol, Emrys Roberts. Dyma'u cyngor cynta', ond byddai'r criw dibrofiad yn cael amser caled.

  • Cafwyd un o'r hafau sycha' erioed, gyda thai yn dod i'r golwg mewn argaeau a llwch dychrynllyd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

  • Sefydlwyd Awdurdod Datblygu Cymru i hyrwyddo'r economi a diwydiant. Ond daeth pennod ddiwydiannol arall i ben wrth i'r pwll mwyn haearn ola' gau yng Nghymru, yn Llanhari ym Morgannwg.

  • Daeth argoel o ddyfodol du y diwydiant llaeth, wrth i Hufenfa Meirion gau yn Rhydymain.

  • Yn sgîl datgeliadau gan y cylchgrawn Rebecca a rhaglenni teledu, cafwyd achosion llys am lygredd yn erbyn arweinwyr llywodraeth leol ym Morgannwg.

  • Agorodd y Comisiwn Ewropeaidd ei swyddfa gynta' yng Nghaerdydd.

  • Ogof Ffynnon Ddu, Powys, oedd yr ogof gynta' yn y DU i gael ei gwneud yn warchodfa natur.

    Y BYD

  • Cafwyd sawl daeargryn mawr - roedd y gwaetha' yn China, pan laddwyd 240,000 o bobl.

  • Yn Efrog Newydd, rhoddodd dyn ei law mewn bag papur a thynnu gwn ohono i lofruddio person diniwed - dyna ddechrau cyfres o lofruddiaethau a chyfnod o arswyd gan y 'Son of Sam'.

  • Pleidleisiodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig o blaid rhoi lle yn y CU i Fudiad Rhyddid Palesteina (y PLO) dan arweiniad Yasser Arafat. Roedd yn benderfyniad dadleuol ac arwyddocaol.

  • Cafwyd coup milwrol yn yr Ariannin, wrth i'r fyddin ddisodli Isabel Peron, gweddw'r cyn-arlywydd.

  • Dechreuodd terfysgoedd Soweto yn un o brif dreflannau De Affrica, a dyma ddechrau'r diwedd i gyfundrefn apartheid yn y wlad.

  • Y Dwyrain Canol - Bu raid symud cannoedd o ymwelwyr gorllewinol o Beirut yn Libanus ar ôl llofruddiaeth llysgennad yr Unol Daleithiau yn y wlad. A chafwyd digwyddiad dramatig ym maes awyr Entebbe, Uganda, wrth i gomandos Israelaidd achub awyren Air France oedd wedi cael ei herwgipio gan derfysgwyr Palesteinaidd - roedd mwy na 250 o bobl arni.

  • Ar ôl blynyddoedd o ymladd, unwyd Gogledd a De Fietnam i greu gwlad Sosialaidd Gomiwnyddol.

  • Rhoddwyd carchar am saith mlynedd i'r cyn-AS John Stonehouse a ffugiodd ei farwolaeth ei hun.

  • Yng Ngogledd Iwerddon, wrth i'r trais barhau ac i Lundain ddechrau llywodraethu'n uniongyrchol eto, dechreuodd protestiadau heddwch gan ferched - gorymdeithiodd 10,000 trwy'r strydoedd ar Awst 14.

  • Llwyddodd y Democrat Jimmy Carter, y ffermwr cnau mwnci o'r de, i guro Gerald Ford am Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau - y cynta' o daleithiau'r De i ennill y swydd ers y Rhyfel Cartref.

  • Ac un fach arall... Distawyd y 'Bong' - oherwydd nam bu raid stopio'r cloc ar Big Ben am naw mis er mwyn ei atgyweirio.

    CERDDORIAETH

  • Cynhaliwyd cyngerdd anferth i ffarwelio ag Edward H. - roedden nhw hefyd wedi creu noson gofiadwy yn Eisteddfod yr Urdd. Ym mis Medi, cyhoeddwyd fod siwpyrgrwp newydd yn cael ei ffurfio, o'r enw Injaroc, gyda rhai o gyn-aelodau Edward H a Sidan, ynghyd â Geraint Griffiths, Myfyr Isaac ac Endaf Emlyn.

  • Darllediad ac albwm arall o bwys oedd Gorffennwyd - fersiwn Hefin Elis o stori'r Pasg. Emyr Wyn oedd Iesu a Dewi Pws yn Jiwdas.

  • Cyhoeddodd gŵr a gwraig albwm yr un - Gobaith Mawr y Ganrif, albwm cynta' Geraint Jarman a dechrau ar ei gyfnod yn brif ganwr roc Cymru, a Jiawl gan Heather Jones, albwm llawer mwy caled na'i recordiau cynharach.

  • Cyhoeddodd Dafydd Iwan ei ail albwm, Mae'r Darnau yn Disgyn i'w Lle ac, yn ddigon addas, Diwedd y Gân oedd unig albwm, ac albwm ola', Ac Eraill.

  • Daeth yr albwm Ffrindiau Bore Oes â phoblogrwydd newydd i'r grŵp Hergest, gyda chaneuon Beach Boysaidd fel Dinas Dinlle a chyn-aelodau o Josgin, Rhys Evans a Gareth Thomas, ar y bas a'r drymiau.

  • Dyma flwyddyn siwtiau gwyn (tri rhif 1 i Abba o Sweden), geiriau amheus (y Wurzels a'u cân i'r Combine Harvester), dyn mawr gyda llais uchel mewn coban (Demis Roussos) ac Elton John (a gafodd help Kiki Dee i gael ei rif 1 cynta'). A daeth y band pync, Sex Pistols, yn enwog, gan ddweud "D'yn ni ddim yn ymwneud â cherddoriaeth, r'yn ni'n ymwneud ag anrhefn".

  • Doedd Y Cymro ddim yn cyhoeddi ei Ddeg Uchaf yn ystod 1976 ond dyma'r caneuon a fu'n rhif 1 yn y siartiau Saesneg:

    Bohemian Rhapsody - Queen
    Mamma Mia - Abba
    Forever and Ever - Slik
    December '63 (Oh, What a Night) - Four Seasons
    I Love to Love - Tina Charles
    Save Your Kisses for Me - Brotherhood of Man
    Fernando - Abba
    No Charge - JJ Barrie
    Combine Harvester - Wurzels
    You to me are Everything - Real Thing
    The Roussos Phenomenon - Demis Roussos
    Don't Go Breaking My Heart - Elton John & Kiki Dee
    Dancing Queen - Abba
    Mississippi - Pussycat
    If You Leave Me Now - Chicago
    Under the Moon of Love - Showaddywaddy
    When a Child is Born - Johnny Mathis

    CELFYDDYDAU

  • Roedd yna helynt anferth yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi ar ôl i Dic Jones ennill y Gadair a chael ei ddiarddel - oherwydd ei fod ar un o bwyllgorau'r Eisteddfod. Cafodd Alan Llwyd y gadair yn ei le, gan gyflawni'r Dwbl am yr ail waith, a chyhoeddwyd y ddwy awdl yn y cyfansoddiadau.

  • Ym Mhorthaethwy yr oedd Eisteddfod yr Urdd. Aeth y Gadair i'r darpar-brifardd Sion Aled a'r Goron i Gwyneth Williams o Lanbed.

  • Lansio Cyfres y Llewod gan Dafydd Parri a'r Lolfa. Roedd hon ar batrwm rhai o lyfrau Enid Blyton ac roedd clwb ac anrhegion i ddarllenwyr.

  • Ffurfiwyd Barddas, y Gymdeithas Gerdd Dafod, er mwyn hyrwyddo canu caeth a gwarchod safonau'r gynghanedd. T. Llew Jones oedd y Llywydd ac Alan Llwyd yn un o'r sylfaenwyr. A ffurfiwyd Cymdeithas Bob Owen hefyd i hynafiaethwyr, gyda'i gylchgrawn yntau Y Casglwr.

  • Cyhoeddwyd llyfr gwleidyddol pwysig am y frwydr tros yr iaith Gymraeg - Culture in Crisis gan y newyddiadurwr, Clive Betts.

  • Ar yr un pryd, Adfer a'r Fro Gymraeg, gan Emyr Llywelyn oedd y datganiad cliria' eto o athroniaeth mudiad Adfer.

  • Perfformiwyd y ddrama Ac Eto Nid Myfi gan John Gwilym Jones am y tro cynta', gan griw o fyfyrwyr, dan ei gyfarwyddyd ef. Yn eu plith, John Roberts (BBC), Dewi Jones (prifathro) a Sioned Mair.

  • Daeth un o theatrau bach Cymru i ben - roedd Theatr y Gegin, Criccieth, wedi llwyfannu sawl un o ddramâu Wil Sam.

  • Yn ogystal â'i albwm cynta', cyhoeddodd Geraint Jarman ei ail gyfrol o farddoniaeth, Cerddi Alfred Street.

  • Gwrthododd rhai capeli ac ysgolion â dosbarthu papur bro Caerdydd, Y Dinesydd, oherwydd colofn Y Dyn Dwad - cofnodion dychmygol dyn o Gaernarfon a oedd wedi symud i'r ddinas. Golygydd y papur oedd Siân Edwards a Dafydd Huws oedd yr awdur.

    TELEDU A RADIO

  • Roedd fersiwn o nofel Richard Llewellyn am Dde Cymru, How Green Was My Valley, ar y BBC, gyda Stanley Baker yn un o'r prif rannau ac yntau eisoes yn wael gyda chanser.

  • Roedd cyfres arall o Am Hwyl i Blant ar y sgrîn, gyda Jennie Ogwen ac Elinor Jones.

  • Roedd cyfres deledu Saesneg, Twm Sion Cati, yn cael ei ffilmio yn ardal Ystrad Fflur, gyda John Ogwen yn y brif ran a Jane Asher efo fo. Hawkmoor oedd enw'r gyfres.

  • Daeth band pync y Sex Pistols yn enwog ar ôl rhegi fel trwpars ar raglen deledu fyw Bill Grundy. A chafodd Grundy ei atal o'i waith gyda Thames TV am eu hannog.

  • Yn ôl yr amcangyfrifon, bu 1 biliwn o bobl yn gwylio'r Gêmau Olympaidd o Montreal yng Nghanada - y mwya' erioed.

  • Ymhlith rhaglenni mwya' poblogaidd y flwyddyn, roedd y Muppets, y ddau dditectif Americanaidd, Starsky and Hutch, a daeth Noel Edmonds a'i siwmperi i sylw trwy'r Multicoloured Swapshop.

    FFILMIAU

  • Chwalwyd llwch yr actor enwog, Stanley Baker, ar fynydd Llanwonno uwch Cwm Rhondda, ei ardal enedigol.

  • Dechreuwyd y gwaith o ffilmio Star Wars gyda George Lucas yn cymryd $500,000 yn llai am gyfarwyddo er mwyn cael siâr o'r hawliau masnachol. Roedd y pwer 'dag e.

  • Dechreuodd cyfres enwog arall, gyda Sylvester 'Sly' Stallone yn actio paffiwr yn Rocky.

  • Gwnaed ffilm o un o sgandalau mawr gwleidyddiaeth America - All the President's Men - gyda Robert Redford a Dustin Hoffman yn actio'r ddau newyddiadurwr a ddatgelodd dwyll yr Arlywydd Richard Nixon.

  • Enillodd Taxi Driver, gyda Robert de Niro, wobr y Balmwydden Aur yn Cannes ac mae llawer yn credu mai The Outlaw Josey Wales yw un o ffilmiau gorau Clint Eastwood.

  • Ffilmiau eraill - Carrie, am ferch gyda grymoedd goruwchnaturiol dychrynllyd; Bugsy Malone, gyda phlant yn actio gangsters; King Kong, gyda Jessica Lange a Jeff Bridges; Monty Python and the Holy Grail; The Pink Panther Strikes Again, un o gyfres gomedi Peter Sellers.

    CHWARAEON

  • Daeth diwedd gyrfa'r wythwr rygbi a chapten Cymru, Mervyn Davies, wrth iddo gael gwaedlif ar yr ymennydd yn ystod gêm. Yn ôl llawer roedd wedi gweddnewid y ffordd o chwarae yn y safle hwnnw.

  • Roedd canlyniad annisgwyl ym Mhencampwriaeth Bêl-droed Ewrop wrth i Tsiecoslofacia guro Gorllewin yr Almaen yn y rownd derfynol, o 5-3 ar giciau cosb.

  • Cafwyd un o ganlyniadau mwya' annisgwyl y Cwpan FA hefyd wrth i Southampton o'r Ail Adran guro Man Utd trwy gôl gan Bobby Stokes. Diflannodd y cwpan wedyn ar ôl i un o chwaraewyr Southampton, Peter Osgood, fynd ag ef i'r dafarn i ddangos i'w ffrindiau.

  • Enillodd y Sais, James Hunt, bencampwriaeth Fformiwla 1 y byd, trwy guro Niki Lauda o bwynt. Ond roedd Lauda wedi cael dihangfa wyrthiol (a llosgiadau difrifol) mewn damwain ynghynt yn y tymor.

  • Yn y Gêmau Olympaidd ym Montreal, roedd boicot gan lawer o wledydd Affrica oherwydd presenoldeb Seland Newydd (a fu'n chwarae rygbi yn erbyn De Affrica). Y gymnast o Romania, Nadia Comaneci, oedd y seren yn cael saith marc llawn a thair medal aur. Enwau mawr eraill - Juantorena o Ciwba yn cipio'r 400m a'r 800m a Viren o'r Ffindir y 5,000m a'r 10,000m. Y Dywysoges Anne o dîm marchogaeth y DU oedd yr unig gystadleuydd i osgoi cymryd prawf rhyw.

  • Enillodd Bjorn Borg y cynta' o'i bum teitl yn Wimbledon - a hynny o'r bron.

  • Cafodd Ras yr Wyddfa ei rhedeg am y tro cynta'.

  • Enillodd dau Gymro brif bencampwriaethau snwcer y byd - Doug Mountjoy yn cipio'r un amatur a Ray Reardon yn curo Alex 'Hurricane' Higgins yn rownd derfynol yr un broffesiynol. Reardon hefyd oedd y cynta' i gael ei gyhoeddi yn rhif un o ddetholion y byd.

    GWYDDONIAETH

  • Cafwyd yr achos cynta' erioed o glefyd y llengfilwyr, wrth i 29 gael eu lladd yng nghynhadledd yr American Legion yn Philadelphia.

  • Llwyddodd y llong ofod Viking 2 i lanio ar y blaned Mawrth a chymryd y lluniau lliw agos cynta' o wyneb y blaned goch.

  • Lansiwyd yr argraffydd laser cynta' gan IBM; cafwyd argraffydd chwistrell-inc hefyd a datblygwyd Cray-1, yr archgyfrifiadur cynta'.

  • Ehedodd y wennol ofod, Enterprise, am y tro cynta' gan ddechrau ar gyfnod newydd o waith yn y gofod.

  • Llyfr o wyddoniaeth boblogaidd oedd un o lwyddiannau cyhoeddi'r flwyddyn - The Selfish Gene gan Richard Dawkins.

    FFORDD O FYW

  • Dyfeisiwyd y cymeriad Mr Urdd ar gyfer y mudiad, gan un o'i swyddogion, Wynne Melville Jones.

  • Roedd dau o geir newydd y flwyddyn yn dangos dylanwad cynyddol cwmnïau tramor - yr Audi 100 ac, yn fwy arwyddocaol, y Datsun Sunny o Japan.

  • Erbyn hyn, roedd gohebydd i BBC Cymru ym Mangor yn dechrau ar gyflog o £4,665 y flwyddyn, gyda chostau'n ychwanegol.

  • Dechreuodd brwydr y fideos - gyda Matsushita'n cyflwyno'r VHS i gystadlu yn erbyn system Betamax Sony. Y VHS enillodd ac roedd ffortiwn yn y fantol.

  • Cafwyd y daith fasnachol gynta' gan yr awyren siwpyrsonig, Concorde - tros y blynyddoedd nesa' byddai ei sŵn yn torri'r terfyn sain yn cael ei glywed yn achlysurol uwch gorllewin Cymru.

  • Ffurfiwyd cwmni cyfrifiadurol Apple gan ddau Americanwr o'r enw Steve Jobs a Steve Wozniak. A gyda llaw, cofrestrwyd cwmni bach Americanaidd arall yn swyddogol - ein enw oedd Microsoft.

  • Cafwyd daeargryn ym myd gwin - wrth i arbenigwyr osod gwinoedd o lefydd fel Awstralia yn uwch nag enwau mawr Ffrainc, a hynny mewn gŵyl flasu ym Mharis!

  • Codwyd Tŵr CN yn Toronto, Canada - ar y pryd dyma'r adeilad unigol ucha' yn y byd.

  • Arwydd o bethau i ddod - rhoddwyd y wobr Nobel am economeg i ddyn o'r enw Milton Friedman. Hwn oedd guru Margaret Thatcher ac archoffeiriad monetariaeth - y gred fod angen cadw gafael tynn ar lif arian gwlad.

  • Ffasiwn pync oedd y stori fawr - gwallt fel cocatŵ, dillad duon tyllog, a seffti pins ym mhob twll a chornel.

  • Sefydlwyd y Body Shop - gan greu ffasiwn newydd o ran deunyddiau naturiol a siopa gyda chydwybod.

    MARWOLAETHAU 1976

  • Meirion Williams, cyfansoddwr caneuon fel Berwyn ac Aros Mae'r Mynyddau Mawr.

  • Humphrey 'Wmffra' Roberts oedd y dyn sy'n cael y clod am helpu Plaid Cymru i ennill yng Nghaernarfon - ef oedd yr asiant a threfnydd ymgyrchoedd Dafydd Wigley.

  • Roedd yna alar arbennig yng Nghymru wrth glywed am farwolaeth y canwr croenddu, Paul Robeson - roedd wedi ffilmio yng Nghymru a chreu cysylltiadau clos iawn gyda'r glowyr.

  • Stanley Baker, yr actor o'r Rhondda a seren y ffilm Zulu, a fu farw yn ddim ond 49 oed o ganser yr ysgyfaint.

  • Cymro o dras hefyd oedd Howard Hughes, y miliwnydd a'r dyn awyrennau. Roedd wedi byw fel meudwy ers blynyddoedd.

  • Bu farw dwy actores lwyfan o'r hen steil - Sybil Thorndike ac Edith Evans.

  • Zhou Enlai, Prif Weinidog China.

  • Mao Zedong, sylfaenydd Gweriniaeth China.

  • Agatha Christie, awdures nofelau ditectif.

  • Ulrike Meinhof, y derfysgwraig o'r Almaen, a roddodd ei enw i gang enwog Baader-Meinhof, ac a fu ar gyrchoedd dwyn a bomio rhwng 1970-2. Crogodd ei hun yn y carchar.

  • Benjamin Britten, y cyfansoddwr Seisnig.


  • Cofio...

    [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive] [an error occurred while processing this directive]


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy